2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 13 Tachwedd 2019.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo partneriaeth effeithiol rhwng llywodraeth leol a chyrff iechyd cyhoeddus yng Nghymru? OAQ54647
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol a byrddau iechyd, feddwl a gweithredu'n wahanol, gan sicrhau bod cydweithredu wrth wraidd y ffordd y maent yn gweithio. Mae hyn yn cynnwys, ond yn ymestyn ymhell y tu hwnt, i'w gwaith ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus.
Diolch. Er bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu cymorth arbenigol ar iechyd y cyhoedd i'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, mae holl gyrff y GIG yn rhannu’r cyfrifoldeb am iechyd y cyhoedd yng Nghymru, o dan arweinyddiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mewn cyferbyniad, yn Lloegr, cafodd y prif ddyletswyddau statudol ar gyfer iechyd y cyhoedd eu gosod ar awdurdodau lleol yn 2013, gyda’r awdurdodau lleol yn gyfrifol am wella iechyd y boblogaeth leol ac am wasanaethau iechyd cyhoeddus, heb gynnwys unrhyw wasanaethau iechyd rhywiol na gwasanaethau sy’n ceisio lleihau camddefnydd o alcohol a chyffuriau. Yn ddiweddar, cefais gyfarfod â swyddogion ac aelodau gweithredol awdurdod lleol yng Nghymru a ddywedodd wrthyf fod y ffocws a gwaith craffu yn Lloegr wedi bod yn well am yr un adnoddau o ganlyniad i hynny. Dywedodd adroddiad dilynol ar lansio hyn yn Lloegr gan yr elusen iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol a'r felin drafod, y King's Fund, fod,
Trosglwyddo swyddogaethau a staff iechyd y cyhoedd... i awdurdodau lleol wedi mynd yn rhyfeddol o dda yn y rhan fwyaf o achosion, gyda chyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd yn hyderus o ganlyniadau iechyd gwell yn y dyfodol ac yn adrodd am brofiadau cadarnhaol o weithio mewn awdurdodau lleol.
Heb farnu ymlaen llaw ar hyn, pa ystyriaeth neu ba rôl adolygu sydd gan Lywodraeth Cymru wrth ystyried, ar sail niwtral, ar sail anfeirniadol, beth sy'n gweithio orau mewn modd sy'n gysylltiedig â chanlyniadau ac edrych i weld a yw'r systemau dros y ffin yn cyflawni’n well, fel yr honnwyd wrthyf?
Mewn gwirionedd, mae iechyd y cyhoedd ym mhortffolio fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, nid fy un i. Felly, mae llawer o'r hyn rydych newydd sôn amdano ym mhortffolio Vaughan Gething, ond yn gyffredinol, rydym wedi bod yn defnyddio'r byrddau partneriaeth rhanbarthol i gyflawni'r un canlyniad, gan fod a wnelo hyn â mwy na throsglwyddo swyddogaethau o un rhan o'r sector cyhoeddus i'r llall; mae'n ymwneud â sicrhau bod y sector cyhoeddus cyfan yn gweithio gyda'i gilydd yn gytûn i gyflawni set o ganlyniadau y cytunwyd arnynt ar y cyd a gweledigaeth a rennir. Felly, mae'n system gymharol newydd. Rydym wedi cael adroddiadau wedi'u gwneud arni.
Yn y Bil llywodraeth leol, rydym ar fin rhoi trefniant gweithio rhanbarthol gwahanol ar waith, y gall awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd ac iechyd y cyhoedd a chyrff cyhoeddus eraill fanteisio arno os ydynt am wneud hynny, ar y sail na cheir un ateb sy'n addas i bawb. Felly, os oes awdurdod lleol rydych yn siarad ag ef o’r farn fod hwnnw'n llwybr gwell, bydd ganddynt ffordd o wneud hynny. Ond ar hyn o bryd, rydym wedi bod yn edrych ar sicrhau bod y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gweithio. Mae'n drefniant cymharol newydd yng Nghymru. Mae’n gweithio’n dda hyd yn hyn. Ond rydym yn ystyried eu sefyllfa ar hyn o bryd, ac mewn gwirionedd, mae gan fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, a minnau ddiddordeb yn y ffordd y mae hynny'n gweithio ac a fydd angen i'r ffordd rydym yn ariannu hynny a'r ffordd rydym yn cefnogi hynny newid yng ngoleuni'r gwersi a ddysgir, a ninnau yn ail flwyddyn ei weithrediad, rwy’n credu.
Ie, diolch, Weinidog. Clywaf yr hyn a ddywedwch am fyrddau partneriaeth rhanbarthol, ond yn amlwg, er mwyn datblygu'r ddadl ychydig, gyda'r ystod o'r hyn sy'n gwneud pobl yn sâl yn y lle cyntaf—y penderfynyddion afiechyd fel y’u gelwir, fel y gwyddoch—maent eisoes yn rhan o gylch gorchwyl llywodraeth leol: iechyd yr amgylchedd a thai gwael, addysg yn arbennig a thrafnidiaeth gyhoeddus. Maent eisoes o dan reolaeth awdurdodau lleol. Felly, byddai'n gwneud synnwyr i geisio cryfhau agweddau iechyd y cyhoedd awdurdodau lleol, gan eu bod eisoes yn gwneud llawer o hynny, trosglwyddo cryn dipyn o hynny yn uniongyrchol i awdurdodau lleol, yn hytrach nag i fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Nid wyf yn gwybod sut rydych chi'n teimlo am hynny.
Nid ydym yn y gêm o drosglwyddo swyddogaethau o'r naill i'r llall. Gallwch ddadlau y dylai gofal cymdeithasol fod yn rhan o iechyd, neu y dylai'r holl beth fod gyda'i gilydd mewn un corff neu beth bynnag. Yn gyffredinol, rwyf o'r farn nad y strwythur sy'n bwysig, ond y trefniadau gweithio a'r diwylliant. Felly, rydym yn mynd ar lwybr y byrddau partneriaeth rhanbarthol am ein bod eisiau i'r holl wasanaethau cyhoeddus weithio'n dda gyda'i gilydd. Felly, mae'n llygad ei le, ond gallech ychwanegu cael swydd dda a gofal iechyd sylfaenol da a phopeth arall at hynny.
Felly, mae gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol yr ystod o wasanaethau cyhoeddus yn rhan ohonynt. Mae ganddynt drefniadau cyllidebol a rennir, ac maent yn rhannu gweledigaeth a diben. Fel y dywedaf, rydym ar fin rhoi cyfrwng newydd iddynt os ydynt am ei ddefnyddio. Nid yw hynny'n orfodol; gallant ei ddefnyddio os ydynt am wneud hynny. Nid ydym wedi mynd am un ateb sy’n addas i bawb, gan fod y diwylliant yn wahanol ledled Cymru, felly mewn rhai lleoedd, byddant am gael trefniadau ychydig yn wahanol. Ond gyda Vaughan, rwyf wedi bod yn edrych yn agos iawn ar sut y mae'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi bod yn datblygu, sut rydym yn eu hariannu a sut y mae'r partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi gwneud tai yn aelod statudol o'r bwrdd yn ddiweddar am yr union reswm a amlinellwyd gennych.