Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:31, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Iawn. Wel, mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi awgrymu defnyddio taliadau disgresiwn at gostau tai i helpu'r bobl yr effeithir arnynt. Nawr, yr opsiwn a ffafrir gennyf fyddai pe bai gan Gymru reolaeth weinyddol dros nawdd cymdeithasol fel y gallem ddatrys y broblem dros nos, ac ni fyddai’n costio unrhyw arian inni ychwaith. Nid oes pwynt gofyn i chi a ydych yn cytuno â hynny, Weinidog—rydym wedi trafod hyn lawer gwaith o'r blaen.

Felly, rwy’n awyddus i ehangu'r pwnc. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r rhestr hirfaith o ostyngiadau i daliadau nawdd cymdeithasol dros y degawd diwethaf, a sut y mae pob un ohonynt nid yn unig wedi gwaethygu tlodi, ond hefyd wedi rhwystro gallu ein cymdeithasau tai i gefnogi pobl. Nododd Swyddfa Archwilio Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl fod y rhan fwyaf o'r arbedion honedig yn sgil toriadau i fudd-daliadau wedi cael eu llyncu gan y ffaith bod yn rhaid i gymdeithasau tai ganolbwyntio adnoddau ar dasgau gweinyddol a achoswyd gan lawer o'r toriadau hyn, yn ychwanegol at y costau ehangach y mae’r gwasanaethau cyhoeddus wedi gorfod eu hysgwyddo o ganlyniad i ddigartrefedd, ôl-ddyledion, straen, ac ati. A yw'r Llywodraeth wedi cynnal asesiad cyfredol o faint y mae toriadau nawdd cymdeithasol San Steffan wedi’i gostio i wasanaethau cyhoeddus Cymru?