Undebau Credyd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:46, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Mae undebau credyd yn darparu mynediad at gredyd fforddiadwy ac yn hybu arfer o gynilo. Maent yn cynnig dewis arall mwy teg a moesegol yn lle credyd ar gost uchel, sy'n aml yn ecsbloetiol. I gefnogi eu gwaith, mae £544,000 yn cael ei ddarparu i undebau credyd yn y flwyddyn ariannol hon er mwyn rhoi 20 prosiect sy'n hyrwyddo cynhwysiant ariannol ar waith.