Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn agosáu at adeg o'r flwyddyn a all roi pwysau enfawr ar gyllidebau aelwydydd, a gall pwysau hysbysebu a'r dyhead i brynu'r peth iawn arwain yn aml at benderfyniadau gwario anghywir a bwydo twf dyled bersonol, a dyled sy'n anghynaliadwy mewn gwirionedd. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r undebau credyd ledled Cymru, gan gynnwys gwaith gwych Undeb Credyd Bwrdeistref Merthyr Tudful ac Undeb Credyd Smart Money Cymru, sy'n darparu gwasanaethau arian a benthyg yn fy etholaeth, a all helpu teuluoedd sydd o dan bwysau i gyllidebu'n effeithiol, nid yn unig adeg y Nadolig, ond drwy gydol y flwyddyn? Ac a allech ddweud wrthyf beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo ac annog defnydd o undebau credyd?