Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r ffaith fod nifer y bobl ym Merthyr Tudful a Rhymni sy'n hawlio budd-daliadau diweithdra wedi gostwng traean ers 2010, diolch i bolisïau Llywodraeth Geidwadol y DU? Ac a ydych chi'n cytuno â chyfarwyddwr cyffredinol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain bod rhai o bolisïau Llafur yn bygwth niweidio sylfaen ein heconomi, fel yn eich polisïau yn y blaid Lafur ar gyfer y Llywodraeth nesaf yr ydych chi'n yn eu rhoi i mewn, y bydd cynnydd i dreth gorfforaeth yn sicr yn atal cwmnïau, yn enwedig cwmnïau amlwladol, rhag mynd ar hyd ffordd Blaenau'r Cymoedd i ardaloedd Rhymni a'r Cymoedd i fuddsoddi yno?