Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 19 Tachwedd 2019.
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad a'i gwestiynau? Yn gyntaf oll, rwy'n cytuno'n llwyr y dylai cefnogaeth drawsbleidiol ar y mater pwysig iawn hwn gael ei gynnal yn ystod cyfnod yr etholiad presennol? Byddaf i'n dod at lefel yr ymgysylltu â Llywodraeth y DU mewn munud, ond gallaf ddweud bod y drafodaeth a gynhaliwyd y bore yma gyda Tata yn adeiladol iawn. Llwyddais i ganfod mwy o fanylion, ond mae arnaf i ofn na allaf roi asesiad penodol fesul safle o effaith y cyhoeddiad, oherwydd, fel y dywedais yn fy natganiad, bydd y gwaith a gaiff ei wneud yn y tri mis nesaf yn seiliedig ar swyddogaethau yn hytrach na safleoedd. Cyn gynted ag y bydd y data ynghylch y swyddogaethau ar gael, gall Tata wedyn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y modd y mae hyn yn effeithio ar bob un o'r safleoedd, ac rwy'n disgwyl i hynny fod tua mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Ac fel y dywedais, Dirprwy Lywydd, o fis Chwefror y flwyddyn nesaf hyd at fis Mawrth 2021, bydd y cyfnod gweithredu ar gyfer y rhaglen drawsnewid hon yn cael ei roi ar waith.
Rwy'n credu ei bod yn briodol dweud nawr bod Tata hefyd wedi rhoi sicrwydd imi y bydd yn anrhydeddu'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth ag undebau llafur ac y byddan nhw, o ganlyniad, yn ceisio osgoi diswyddiadau gorfodol. Nawr, rydym ni'n gwybod, o'r ffaith y bydd y rhan fwyaf o'r swyddi wedi'u lleoli mewn swyddfeydd, o ran y cyhoeddiad a wnaed eisoes ynglŷn ag Orb, y gallai'r swyddi sy'n goler las yn Orb dal i fod—neu y gallai'r bobl sy'n gweithio mewn swyddi coler las yn Orb dal i gael eu trosglwyddo i gyfleoedd eraill o fewn y teulu Tata ar hyd coridor yr M4. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion barhau i drafod hyn a'r rhaglen drawsnewid yn ehangach gyda Tata yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
O ran y drafodaeth bwrdd crwn a oedd fod digwydd fis diwethaf, er ei bod yn wir fod UK Steel wedi canslo'r cyfarfod, gwnaed hynny allan o rwystredigaeth, rhwystredigaeth na allai'r Ysgrifennydd Gwladol, yn anffodus, fod yn bresennol ar gyfer y cyfarfod llawn, ac felly mae gennyf i bob cydymdeimlad â UK Steel. Mae'n gwbl hanfodol ar yr adeg eithriadol o heriol hon bod pob Llywodraeth yn rhoi ei phwysau y tu ôl i gyd-ymdrech i ymdrin â'r heriau sy'n wynebu'r sector. Wedi dweud hynny, Dirprwy Lywydd, cefais gyfarfod adeiladol iawn fy hun, ar sail ddwyochrog, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol fis yn unig yn ôl, ac awgrymais i i'r Ysgrifennydd Gwladol y byddai o fantais inni rannu, lle bo hynny'n bosibl, adnoddau dynol ein dwy Lywodraeth. Ac roeddwn i'n falch iawn bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cytuno bod hwn yn syniad da ac rydym ni bellach yn bwrw ymlaen â hynny. Rwy'n meddwl am ddau reswm—un yw dyfodol dur, a'r llall yw dyfodol y sector modurol—mae angen i'n llywodraethau ni weithio'n agos iawn gyda'i gilydd a disgwyliaf i'n swyddogion wneud hynny.
Fe wnaeth Tata siarad yn ei ddatganiad am y dyfodol carbon-niwtral ar gyfer cynhyrchu dur ac roedd Russell George yn iawn i ofyn pa fath o gymorth a all fod ar gael gan Lywodraeth Cymru o ran hyn. Drwy ein cynllun gweithredu economaidd, rydym bellach wedi creu'r lens newydd ar gyfer asesu ceisiadau am arian grant ac mae un o'r gofynion hynny'n ymwneud â datgarboneiddio. Yn fy marn i, os gallwn gydblethu cyfleoedd o strategaeth ddiwydiannol y DU a chynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, gallwn gefnogi ymdrech Tata i gynhyrchu dur carbon-niwtral. Ond er mwyn gwneud y gorau o'r cyfleoedd hynny o fewn strategaeth ddiwydiannol y DU, mae angen dod i gytundeb sector dur ar frys.
Ac o ran cymorth arall a all fod ar gael, dulliau eraill a all fod ar gael i ddarparu cyfleoedd i Tata a chynhyrchwyr dur eraill yng Nghymru, wel, mae'r fargen ddinesig ym Mae Abertawe yn un ffordd amlwg o gefnogi'r sector, a hefyd, fel y nododd Russell George, raglenni seilwaith mawr. Ac o ganlyniad i'r ffaith mai Llywodraeth Cymru oedd y gyntaf i lofnodi siarter dur y DU, mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod cymaint o ddur Cymru â phosib yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau seilwaith mawr. Ac o fewn y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, a gyhoeddwyd y mis hwn, mae yna brosiectau sylweddol a allai ddefnyddio dur sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru, a disgwyliaf i Tata allu manteisio ar y pwrs cyhoeddus a'r cyfleoedd caffael sydd bellach ar gael iddo.