Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Diolch, Llywydd. Cyflwynwyd adroddiad ar y Bil hwn ar 12 Tachwedd a gwnaed tri argymhelliad. Cyn trafod yr argymhellion hynny, hoffwn dynnu sylw at un pwynt cyffredinol. Yn yr un modd â chyda'n gwaith craffu ar yr holl Filiau, bu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ystyried materion sy'n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, ac mae hyn yn cynnwys cydymffurfio â deddfwriaeth hawliau dynol. Rydym ni wedi dweud yn gyson y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwybodaeth sy'n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol, a nodir mewn memoranda esboniadol, yn cynnwys digon o fanylion i sicrhau tryloywder ac i alluogi craffu effeithiol ar Filiau.
Yn yr adroddiad hwn, rydym ni wedi manteisio ar y cyfle i ailadrodd y casgliad a wnaed gennym ni'n ddiweddar yn ein hadroddiad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), sef bod esboniadau llawn o asesiadau a gynhaliwyd mewn cysylltiad â hawliau dynol ar gael mewn memoranda esboniadol sy'n cael eu cynnwys gyda Biliau a gyflwynir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn.
Fel y nodwyd eisoes, mae'r Bil hwn wedi bod yn destun proses Cyfnod 1 wedi'i chwtogi yn y Cynulliad. Roedd ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â'r pwynt hwn. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y penderfyniad polisi cefndirol ar gyfer y Bil hwn ym mis Mai 2018, a chafodd y rheoliadau ar gyfer cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol eu dwyn ymlaen ym mis Mawrth eleni. Felly, nid oedd yn glir i ni pam na chafodd y Bil ei gyflwyno'n gynharach. Byddai hyn wedi caniatáu rhagor o waith craffu Cyfnod 1 ac ymgysylltu rhwng rhanddeiliaid a phwyllgorau. Am y rheswm hwnnw, gofynnwn i'r Gweinidog ddefnyddio'r ddadl hon i egluro'r amserlenni a arweiniodd at gyflwyno'r Bil, gan gynnwys cadarnhau ar ba adeg oedd y Gweinidog yn ymwybodol y byddai angen deddfwriaeth sylfaenol. A nodaf sylwadau'r Gweinidog yn gynharach o ran eglurhad ar y pwynt penodol hwn.
Gan symud ymlaen at ein hail argymhelliad, yng nghyd-destun cyfnod byr y gwaith craffu yng Nghyfnod 1, nodasom y pŵer eang a roddwyd i Weinidogion Cymru gan adran 1 (8) o'r Bil, a fewnosododd is-adran (10) newydd yn Neddf y GIG (Cymru) 2006. Awgrymodd y Gweinidog ar y pryd y byddai'r ddarpariaeth hon yn helpu i hwyluso'r broses o atal effaith ddamweiniol neu gyfeiliornus ar bwerau presennol Gweinidogion Cymru, a gofynnwn i'r Gweinidog ddefnyddio'r ddadl hon i egluro'r rhesymeg y tu ôl i'r pŵer a geisir yn adran 1 (8). A nodaf unwaith eto sylwadau'r Gweinidog yn gynharach ar y mater penodol hwn.
Ac yna, yn olaf, o ran y cydbwysedd rhwng y manylion ar wyneb y Bil a'r hyn sy'n cael ei adael i is-ddeddfwriaeth, nodasom fod y Bil yn darparu tri phŵer i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth. Rydym yn cydnabod esboniad y Gweinidog ynglŷn â'r dewis i gyflwyno rheoliadau a wneir o dan adran 1 (8) o'r Bil gan ddefnyddio'r weithdrefn negyddol. Fodd bynnag, yn ein barn ni, mae'n ddadleuol a yw'n deg ac yn briodol cymharu gwneud rheoliadau a fydd yn cyflwyno cynllun rhwymedigaethau presennol â'r rhai a gyflwynodd y cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol yn gynharach eleni.
Mae ein pryderon yn seiliedig ar y ffaith nad yw'r Bil hwn, sy'n darparu sylfaen ddeddfwriaethol sylfaenol ar gyfer y rheoliadau, wedi cael y cyfle llawn ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1, ac nid yw hi chwaith yn glir ar hyn o bryd pwy a beth fydd yn cael eu cwmpasu gan reoliadau dilynol. Am y rheswm hwnnw, ein trydydd argymhelliad oedd y dylid diwygio'r Bil er mwyn i'r weithdrefn gadarnhaol gael ei defnyddio ar gyfer y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 1 (8) o'r Bil, ac yna'r weithdrefn negyddol ar achlysuron dilynol. Unwaith eto, rwyf wedi nodi'r sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud ar y pwynt penodol hwn. Diolch, Llywydd.