7. Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

– Senedd Cymru am 5:25 pm ar 19 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:25, 19 Tachwedd 2019

Yr eitem nesaf felly yw'r cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru). Dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig hwn. Vaughan Gething.

Cynnig NDM7190 Vaughan Gething

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:26, 19 Tachwedd 2019

Does neb wedi dangos eu bod nhw'n moyn siarad, felly dwi'n cymryd nad oes yna ymateb. A'r cwestiwn felly i'r Cynulliad yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.