Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Credaf fod yna broblemau difrifol gyda llifogydd. Weinidog, a fyddech yn cytuno nad ydych yn mynd i ddatrys y broblem drwy wario arian a chodi waliau uwch ac uwch yn unig; mae’n rhaid i'r ateb ymwneud â dod o hyd i leoedd i'r dŵr fynd. Ac rwy'n siarad yn aml am yr un ar Afon Tawe, lle mae'r dŵr yn gorlifo i ardal llifogydd, sef dim ond tir. Os ydych yn mynd i wario arian, does bosibl na ddylech wario arian ar ardaloedd y gallwn eu gorlifo, a’u gorlifo'n llwyddiannus, heb wneud unrhyw ddifrod, yn hytrach na chodi waliau uwch ac uwch, hyd nes ein bod yn dal i wario mwy a mwy o'n cyllideb ar godi waliau uwch ac uwch, ond wrth i lefelau'r dŵr godi, yn y pen draw byddwn mewn sefyllfa lle mae dŵr yn dal i ddod dros y waliau.