Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Mae Mike Hedges yn llygad ei le fod yn rhaid inni fuddsoddi mewn ystod o atebion a mesurau ataliol. Felly, un enghraifft o hynny—enghraifft dda iawn yn fy marn i—yw menter GlawLif yn Llanelli, y gwn fod y Gweinidog â chyfrifoldeb am yr amgylchedd a materion gwledig yn arbennig o frwdfrydig yn ei chylch. Gwn ei bod yn ystyried deddfwriaeth systemau draenio cynaliadwy yn y dyfodol a'r hyn y gallai hynny ei olygu o ran cychwyn y gwaith hwnnw. Ac eto, os ydym yn ystyried adeiladu ystadau tai newydd, er enghraifft, mae angen inni edrych ar ffyrdd o reoli'r dŵr ar yr ystadau hynny. Felly, gwn fod hwn yn fater y mae'r Gweinidog yn ymwybodol iawn ohono, ac nad yw'n ymwneud ag adeiladu'r waliau uchel hynny yn unig, fel yr awgrymodd Mike Hedges, ond dod o hyd i ffyrdd eraill o sicrhau bod dŵr yn draenio'n ddiogel.