Diwygio Caffael Cyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:38, 20 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Mae Gwerth Cymru yn nodi y bydd pob cynnydd o 1 y cant yn y lefelau caffael yng Nghymru yn creu 2,000 o swyddi. Felly, mae'r buddion yn glir. Nawr, o gofio bod yr Alban yn rhoi 75 y cant o gontractau'r Alban i gwmnïau yn yr Alban, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddysgu o'r profiad hwnnw a rhoi hwb tebyg, mawr ei angen i economi Cymru?