Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Fel y soniais, hyd yn hyn, mae Cymru wedi defnyddio 45 y cant o'n cyllid gan yr UE ar gyfer y rhaglen datblygu gwledig, ac mae hynny'n cymharu â chyfartaledd o 42 y cant ymhlith yr aelod-wladwriaethau eraill. Mewn gwirionedd, mae hynny'n fwy o nodwedd o'r ffordd y mae cyllid Ewropeaidd yn gweithio o ran proffilio’r prosiectau hynny dros nifer o flynyddoedd, ac mae’n rhaid sicrhau’r gwariant llawn dair blynedd ar ôl cau’r rhaglen. Felly 2023 fyddai'r cyfnod presennol, ac erbyn hynny, byddai'n rhaid ein bod wedi gwario'r holl arian a gawsom. Felly nid yw'r ffigur o 42 y cant, neu 45 y cant fel y mae ar hyn o bryd, yn awgrymu mai ychydig o arian sydd wedi'i wario; mae'n adlewyrchu proffil gwario'r rhaglen benodol.