Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Diolch am hynny. Weinidog, mae dogfen ganllawiau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gaffael cyhoeddus a'r Undeb Ewropeaidd yn ddiddorol iawn. Mae'n nodi bod yr UE yn gosod y deddfau ar gyfer dyfarnu contractau caffael cyhoeddus. Mae'r deddfau wedi'u cynllunio i agor marchnad yr UE i gystadleuaeth, i hybu rhyddid i symud nwyddau a gwasanaethau ac i atal polisïau rhwng dwy wlad. A yw Llywodraeth Cymru bellach yn croesawu’r cyfleoedd newydd y bydd Brexit yn eu cynnig i fusnesau Cymru?