Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Wel, os oes cyfleoedd newydd i fusnesau Cymru mewn perthynas â Brexit, rwy'n siŵr fod yr anfanteision a ddaw yn sgil Brexit i fusnesau Cymru yn eu bwrw i'r cysgod. Ond byddwn yn manteisio ar unrhyw gyfle i sicrhau, os oes cyfleoedd newydd yn agor i ni, byddwn yn sicr o fanteisio arnynt. Ond yn gyffredinol, credaf ei bod yn deg dweud, fel y byddai'r rhan fwyaf o sylwebyddion a'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi dadansoddi hyn yn dweud, na fydd yr effaith gyffredinol a throsfwaol ar fusnes yn gadarnhaol.