Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:30, 20 Tachwedd 2019

Wel, does dim amcanion gyda ni i ddod â deddfwriaeth ymlaen ynglŷn â'r sector preifat. Ond mae yna gynlluniau gyda ni i ddod ymlaen â rheolau ar gyfer y sector dŵr, a byddwn ni'n gwneud hynny yn y flwyddyn newydd, yn ogystal â'r rheini ar gyfer rhai o'r cyrff sy'n ymwneud ag iechyd. O ran y cymdeithasau tai, dwi'n meddwl, ar hyn o bryd, ei bod hi i fyny iddyn nhw benderfynu beth yw eu blaenoriaethau nhw. Mae sgiliau gwahanol yn hanfodol ar gyfer y gwaith yma, a dwi yn meddwl efallai ei bod hi'n bwysig eu bod nhw yn ystyried beth yw'r sgiliau hanfodol sydd yn fwyaf pwysig iddyn nhw. Efallai fod yna sgiliau technegol sydd yn angenrheidiol a bod y rheini yn cyfrif yn fwy pwysig iddyn nhw. Felly, dwi yn meddwl ei bod hi'n ofynnol iddyn nhw wneud penderfyniad ar beth yw eu blaenoriaethau nhw yn y maes yma.