2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr. Y llynedd, fe lansiwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, datblygiad arwyddocaol o ran y Gymraeg ym maes addysg uwch. Cefais i gyfarfod ddoe efo dau o arweinwyr yr undeb, Wil Rees a Jacob Morris. Yr hydref y llynedd, fe gafwyd cefnogaeth eang gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn eu cyfarfod blynyddol i’r cam nesaf, sef creu swyddog etholedig, cyflogedig a llawn amser dros y Gymraeg, fyddai hefyd yn llywydd ar yr undeb newydd yma. Ym mis Rhagfyr, fe gadarnhaodd bwrdd ymddiriedolwyr undeb myfyrwyr y brifysgol y byddai’r swydd yn ei lle erbyn gwanwyn 2020. Ond, yn anffodus, ar drothwy eu cyfarfod blynyddol eleni, mae hi wedi dod i’r amlwg fod yna dro pedol ynglŷn â chreu'r swydd hon, y swydd gyflogedig ar gyfer y myfyrwyr Cymraeg. Mae yna swydd debyg, fel y gwyddoch chi, ym Mangor, Aberystwyth ac Abertawe. Ac mae bwrdd yr undeb yn peryglu creu gelyniaeth tuag at y Gymraeg drwy fynnu bod yn rhaid dileu darpariaeth i grwpiau eraill er mwyn sicrhau darpariaeth briodol i’r Gymraeg. Fedrwch chi, Gweinidog, gadarnhau eich bod chi'n ymwybodol o’r sefyllfa yma a'ch bod chi'n rhannu fy mhryder i ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf? Ac, os felly, fedrwch chi ymrwymo i ohebu ar frys efo awdurdodau’r coleg a'r undeb cyn eu cyfarfod blynyddol, sy'n digwydd nos yfory?
Diolch yn fawr i chi. Roeddwn i hefyd yn falch o weld sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd yn 2017, a dwi yn meddwl ei bod hi'n hollol bwysig inni. Rydym ni'n gwybod bod yna gwymp ar ôl i bobl ddod allan o'r ysgol a dŷn nhw ddim yn cael cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg. Dwi yn meddwl bod myfyrwyr—mae'n rili bwysig eu bod nhw'n cael cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol, a dyna'r union beth mae undeb y myfyrwyr yma yn ei wneud.
Roeddwn i'n ymwybodol hefyd fod bwrdd yr ymddiriedolwyr yn y gorffennol wedi ymrwymo i benodi swyddog rhan amser yng Nghaerdydd, a dwi yn siomedig, wrth gwrs, eu bod nhw wedi camu yn ôl o hynny. Wrth gwrs, mae'n fater i'r undeb myfyrwyr ei hunan wneud penderfyniad ar hyn, ond dwi yn meddwl ei bod hi'n werth nodi bod Bangor ar y blaen, bod Aberystwyth ar y blaen, a bod Abertawe ar y blaen yn y maes yma. Hefyd, mae'n werth nodi bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn mynd i Brifysgol Caerdydd nag sydd i'r holl brifysgolion eraill. Felly, dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig eu bod nhw yn ystyried o ddifrif yr hyn sy'n digwydd. Gwnes i dderbyn gohebiaeth ar y mater yma ddydd Llun, a nawr rydych chi wedi dweud bod yna frys, mi edrychaf i arni.
Gwych. Diolch yn fawr iawn. Dwi'n falch bod yna gonsensws ar y mater yma a dwi wir yn gobeithio y bydd y mater yn cael ei ddatrys yn gadarnhaol. Dwi yn dymuno'n dda i'r myfyrwyr, y rheini sydd yn ceisio gwthio'r maen i'r wal efo hyn.
Dwi am droi at faes arall rŵan. Nos Lun, fe gyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg adroddiad yn dyfarnu bod gweithwyr mewn ffatri yn Rhydaman wedi'u hatal rhag siarad Cymraeg yn y gwaith. Mae'n peri loes calon imi glywed am weithwyr yn eu dagrau wrth iddyn nhw gael eu rhwystro rhag siarad eu mamiaith, pa bynnag iaith fo honno. Yng ngeiriau Aled Roberts:
'Mae'n siomedig na all cwmni rhyngwladol yn yr unfed ganrif ar hugain weld rhinweddau gweithlu amrywiol ei iaith lle caiff yr iaith Gymraeg ei defnyddio yn gwbl naturiol.'
Yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf y comisiynydd, mae'r achos hwn yn rhan o duedd ehangach o gynnydd yn nifer yr achosion am honiadau o ymyrraeth â rhyddid unigolion yng Nghymru i gyfathrebu â’i gilydd yn y Gymraeg. Pa gamau penodol fyddwch chi'n eu cymryd i ymateb i'r cynnydd cwbl annerbyniol yma mewn achosion tebyg i'r un sydd wedi codi yn Rhydaman?
Wrth gwrs, roeddwn i'n siomedig iawn i weld beth sydd wedi bod yn digwydd yn y ffatri yma yn Rhydaman. Dwi'n meddwl nad yw hi jest yn ymwneud â'r iaith Gymraeg; mae'n ymwneud â'r iaith Bwyleg hefyd. Ond dwi yn meddwl y dylem ni fod yn parchu hawliau pobl i siarad iaith, yn arbennig pan mai honno yw'r iaith frodorol yn ein gwlad. Wrth gwrs, mae angen inni sicrhau bod pobl yn ymwybodol bod hawliau gan bobl yn y wlad yma. Ddylem ni ddim bod yn ymyrryd â hawl pobl i siarad yn y gweithle, ac wrth gwrs byddaf i'n cael trafodion ymhellach gyda'r comisiynydd ynglŷn â beth ymhellach y gall ei wneud i godi ymwybyddiaeth, yn arbennig ym maes busnesau preifat, lle mae peth o'r problemau yma'n digwydd.
Mae'n amlwg imi—a dwi'n gwybod eich bod chi'n anghytuno â hyn—bod achosion fel hyn yn golygu bod yn rhaid inni edrych eto ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â'r Gymraeg yn y sector breifat.
Un maes lle mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu ichi weithredu heddiw i hybu gweithluoedd lle gall y staff weithio yn Gymraeg ac i warchod eu hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn ddirwystr ydy yn y gweithle cymdeithasau tai. Mi fyddwch chi'n ymwybodol fy mod i wedi codi sefyllfa Cartrefi Cymunedol Gwynedd efo chi droeon o'r blaen. Mae gan y corff yma gynllun iaith ac mae wedi ymrwymo i gynnal gweinyddiaeth fewnol Gymraeg ac addo hefyd y bydd unrhyw aelod o staff yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cefnogi'r polisi sydd yn y cynllun. Ond eto, mae Adra—Cartrefi Cymunedol Gwynedd gynt—unwaith eto yn recriwtio ar gyfer swydd reoli heb bod sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Y gwir amdani ydy nad oes yna ddim oll y gellir ei wneud i ddal y corff yma’n atebol oherwydd nad oes yna safonau wedi’u gosod ym maes cymdeithasau tai. Mae’r rheoliadau drafft yn hel llwch yn eich drôr chi. Pryd fyddwch chi’n cyflwyno'r safonau ar gyfer cymdeithasau tai?
Wel, does dim amcanion gyda ni i ddod â deddfwriaeth ymlaen ynglŷn â'r sector preifat. Ond mae yna gynlluniau gyda ni i ddod ymlaen â rheolau ar gyfer y sector dŵr, a byddwn ni'n gwneud hynny yn y flwyddyn newydd, yn ogystal â'r rheini ar gyfer rhai o'r cyrff sy'n ymwneud ag iechyd. O ran y cymdeithasau tai, dwi'n meddwl, ar hyn o bryd, ei bod hi i fyny iddyn nhw benderfynu beth yw eu blaenoriaethau nhw. Mae sgiliau gwahanol yn hanfodol ar gyfer y gwaith yma, a dwi yn meddwl efallai ei bod hi'n bwysig eu bod nhw yn ystyried beth yw'r sgiliau hanfodol sydd yn fwyaf pwysig iddyn nhw. Efallai fod yna sgiliau technegol sydd yn angenrheidiol a bod y rheini yn cyfrif yn fwy pwysig iddyn nhw. Felly, dwi yn meddwl ei bod hi'n ofynnol iddyn nhw wneud penderfyniad ar beth yw eu blaenoriaethau nhw yn y maes yma.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a wnewch chi roi'r newyddion diweddaraf i ni am yr amserlen ar gyfer cyhoeddi strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda?
Gwnaf. Yng ngoleuni'r etholiad cyffredinol, a'r ffaith ein bod wedi cael rhywfaint o gyfarwyddyd gan y gwasanaeth sifil y byddai hyn yn cael effaith oherwydd y cysylltiad â'r Swyddfa Dramor, fe wnaethant awgrymu y dylem ohirio cyhoeddi'r strategaeth ryngwladol. Ond gobeithiwn y bydd yn dod allan yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Credaf fod hwnnw'n ateb anhygoel o siomedig, os caf ddweud, Weinidog. Rydych wedi bod yn Weinidog cysylltiadau rhyngwladol ers bron i 12 mis bellach. Cymerodd fwy na saith mis i chi gynhyrchu strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghori, ac rydych yn dweud wrthym yn awr eich bod am ohirio cyhoeddi'r strategaeth derfynol tan y flwyddyn newydd. Rydych yn dweud mai'r etholiad cyffredinol yw'r rheswm am hynny, ac eto rydym wedi gweld cyhoeddiadau gan aelodau eraill o Lywodraeth Cymru ar faterion sydd, a dweud y gwir, heb eu datganoli o gwbl, fel band eang yr wythnos diwethaf, ac eto rydych yn dweud na allwch gyhoeddi eich strategaeth ryngwladol eich hun ac felly na allwn eich dwyn i gyfrif am eich cyflawniad yn erbyn y blaenoriaethau a nodwyd gennych. Nawr, os na allwch rannu'r strategaeth gyda ni ar hyn o bryd, efallai y gallwch ddweud wrthym beth yw eich syniadau cyfredol fel Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r ymgysylltiad y bwriadwch ei gael yn y dyfodol gyda gwledydd sy'n datblygu ar draws y byd.
Diolch. Wel, nid yw ein gwaith ar y strategaeth a'r hyn a wnawn yn yr arena ryngwladol wedi dod i ben. Rydym yn weithgar iawn mewn llawer o wahanol feysydd. Ac os edrychwch ar yr hyn a gyflawnwyd gennym yn Japan yn unig, credaf y bydd hynny'n rhoi enghraifft i chi o sut rydym yn estyn allan y tu hwnt i Gymru ac yn sicrhau ein bod yn manteisio ar sefyllfaoedd. Rydym yn falch iawn y bydd Cymru'n mynd i bencampwriaeth Ewrop yn awr, a bydd hynny'n rhoi cyfle arall inni godi ein proffil yn rhyngwladol hefyd.
Y peth allweddol sydd bwysicaf i mi yw nad mater sy'n ymwneud yn unig â chynllun cysylltiadau rhyngwladol y Llywodraeth yw hwn; mae'n rhaid iddo ymwneud â phawb yn ymrwymo gymaint â phosibl i hyn fel y gallwn godi ein llais yn uchel dramor. Ac er mwyn gwneud hynny, yr hyn sy'n hanfodol yw sicrhau ein bod yn ymgysylltu'n iawn wrth ddatblygu'r strategaeth. Rydym wedi cael dros 110 o ymatebion mewn perthynas â'n strategaeth ddrafft ac rydym wedi eu prosesu bellach. Erbyn yfory, neu ddiwedd yr wythnos hon, byddwn yn cyhoeddi beth yw'r ymatebion hynny. Ond mae'r ymgysylltiad hwnnw'n gwbl hanfodol, ac mae ymgysylltu â gwledydd sy'n datblygu yn enwedig yn rhywbeth rydym eisoes wedi'i wneud mewn perthynas â phrosiect Cymru o Blaid Affrica. Ond hefyd, mae llawer iawn o waith arall y credwn y gallem fod yn ei wneud. Ond mae defnyddio ein poblogaeth alltud, fel yr awgrymodd John yn gynharach, yn gyfle inni gysylltu â rhai o'r gwledydd lle rydym yn awyddus i wneud cysylltiadau pellach.
Diolch am eich ymateb. Nid oedd yn canolbwyntio llawer iawn ar yr ymgysylltiad â gwledydd sy'n datblygu, ond o leiaf fe ddywedodd wrthym eich bod yn ceisio mynd i'r afael â phethau, er bod gennych strategaeth i weithio gyda hi. Dywedodd un o'r cyfeiriadau yn eich dogfen ddrafft, ac rwy'n dyfynnu: byddwn,
'yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy ailfrandio rhaglen lwyddiannus Cymru o blaid Affrica yn rhaglen Cymru ac Affrica gan hoelio sylw ar gynaliadwyedd', ac nid yw hynny'n swnio'n uchelgeisiol iawn i mi—ailfrandio'r rhaglen honno yn unig. Rydych eisoes wedi clywed Aelodau'r Cynulliad ar bob ochr i'r Siambr hon o bob plaid wleidyddol yn canmol ei llwyddiant y prynhawn yma. Ac rwyf innau hefyd am longyfarch Llywodraeth Cymru ar lwyddiant y rhaglen honno. Credaf ei bod yn rhaglen werthfawr ac ardderchog iawn sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl yn Affrica is-Sahara. Ond mae calon pobl Cymru yn mynd y tu hwnt i Affrica is-Sahara yn unig. Mae llawer o sefydliadau'n ymgysylltu â gwledydd yn y dwyrain pell, yn ne America, yn y dwyrain canol a phob math o leoedd eraill ar draws y byd lle credaf y gallwn, gydag ychydig o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, chwyddo'r effaith y mae Cymru yn ei chael yn y gwledydd hynny a gwneud gwahaniaeth go iawn.
Ddoe ddiwethaf, mynychais gyflwyniad gan y Pwyllgor Argyfyngau, a ddangosodd yn glir pa mor angerddol yw pobl yng Nghymru a faint y maent yn poeni am y rhannau eraill hyn o'r byd. Roeddent yn sôn wrthym am yr adegau y lansiodd y Pwyllgor Argyfyngau apeliadau yn y gorffennol a chawsom ffigurau ganddynt o ran cyfraniad Cymru i'r rhoddion cyffredinol. Gydag apêl daeargryn Nepal yn ôl ym mis Ebrill 2015, roeddent yn dweud wrthym fod dros £2.5 miliwn wedi'i godi yma yng Nghymru. Mewn ymateb i apêl am yr argyfwng yn Yemen ym mis Rhagfyr 2016, dywedwyd bod dros £1 filiwn wedi'i godi. Roeddent yn dweud bod apêl Myanmar yn 2017 wedi codi dros £842,000, a bod apêl tswnami Indonesia yn 2018 wedi codi dros £871,000. Mae'r rhain yn symiau enfawr o arian, ac mae pob un ohonynt yn llawer mwy—pob un o'r apeliadau hynny, mewn gwirionedd—na chyfanswm cyllideb rhaglen Cymru o Blaid Affrica.
Weinidog, a ydych yn cytuno â mi ei bod yn hen bryd inni gael rhaglen Cymru o blaid y byd, lle gallwn ehangu'r hyn a wnawn, gallwn fod yn fwy cyfrifol yn fyd-eang, a gallwn chwyddo presenoldeb Cymru yn y gwledydd sy'n datblygu a dangos rhywfaint o arweiniad, ie, ar newid hinsawdd, ond hefyd ar drechu tlodi ac ymateb i'r mathau hyn o sefyllfaoedd y mae pobl Cymru yn amlwg iawn yn teimlo'n angerddol yn eu cylch?
Mae'n hollol wir, rwy'n credu, fod pobl yng Nghymru'n hael iawn ac yn deall yr angen i gefnogi cymunedau tlotach ledled y byd. Rwy'n siŵr y byddwch yn falch iawn o glywed bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r broses o gydgysylltu gwaith y Pwyllgor Argyfyngau mewn gwirionedd, ac rydym wedi bod yn talu am y gwaith cydgysylltu hwnnw drwy helpu i dalu am weinyddwr. Gwyddom fod y gwaith o gydgysylltu gwahanol elusennau—. Ceir oddeutu 14 o elusennau sy'n dod at ei gilydd, a'r nod yw sicrhau bod cymaint o arian yn dod i mewn cyn gynted â phosibl. Credaf fod hwnnw'n waith gwerthfawr iawn, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog bob amser yn gwneud fideo i helpu i'w hyrwyddo hefyd.
Felly, nid oes amheuaeth ynghylch haelioni pobl Cymru, ond y cwestiwn i ni yw: gyda'r gyllideb fach sydd gennym, sut rydym yn gwneud i honno weithio orau? Nawr, gallwn ei gwasgaru i bob rhan o'r byd neu gallwn roi ffocws iddi, a chredaf fod achos i'w wneud dros roi ffocws i'r cyllid hwnnw, a dyna rydym yn cynnig ei wneud. Rydym yn ei ganolbwyntio ar themâu amrywiol—er enghraifft, ar gynaliadwyedd—ond ei ganolbwyntio hefyd ar wledydd lle mae gennym berthynas arbennig o gryf â hwy, yn benodol Lesotho ac Uganda, lle byddwch wedi clywed, yn ddiweddar, ein bod wedi plannu'r deng miliynfed coeden. Felly, credaf fod cyfle inni weithio yno, ond po ehangaf yr awn, y lleiaf o effaith rydym yn debygol o'i chael.
Cwestiwn 3, Alun Davies. Rydych wedi cael eich tri chwestiwn, Darren Millar.
Nac ydw, â phob parch.
Mae'n ddrwg gennyf, credaf eich bod. Credaf eich bod wedi cael tri. Mae'n dweud yma gennyf eich bod wedi cael tri chwestiwn.
Ydw i wir?
Mae'n ddrwg gennyf, ydych, do. Dyna pam y gadewais i chi fynd yn eich blaen at eich trydydd cwestiwn, gan fy mod yn gwybod nad oeddech yn dod yn ôl. Mae'n ddrwg gennyf.
Cwestiwn 3, Alun Davies.