Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Credaf fod hwnnw'n ateb anhygoel o siomedig, os caf ddweud, Weinidog. Rydych wedi bod yn Weinidog cysylltiadau rhyngwladol ers bron i 12 mis bellach. Cymerodd fwy na saith mis i chi gynhyrchu strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghori, ac rydych yn dweud wrthym yn awr eich bod am ohirio cyhoeddi'r strategaeth derfynol tan y flwyddyn newydd. Rydych yn dweud mai'r etholiad cyffredinol yw'r rheswm am hynny, ac eto rydym wedi gweld cyhoeddiadau gan aelodau eraill o Lywodraeth Cymru ar faterion sydd, a dweud y gwir, heb eu datganoli o gwbl, fel band eang yr wythnos diwethaf, ac eto rydych yn dweud na allwch gyhoeddi eich strategaeth ryngwladol eich hun ac felly na allwn eich dwyn i gyfrif am eich cyflawniad yn erbyn y blaenoriaethau a nodwyd gennych. Nawr, os na allwch rannu'r strategaeth gyda ni ar hyn o bryd, efallai y gallwch ddweud wrthym beth yw eich syniadau cyfredol fel Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r ymgysylltiad y bwriadwch ei gael yn y dyfodol gyda gwledydd sy'n datblygu ar draws y byd.