Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:23, 20 Tachwedd 2019

Diolch yn fawr. Y llynedd, fe lansiwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, datblygiad arwyddocaol o ran y Gymraeg ym maes addysg uwch. Cefais i gyfarfod ddoe efo dau o arweinwyr yr undeb, Wil Rees a Jacob Morris. Yr hydref y llynedd, fe gafwyd cefnogaeth eang gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn eu cyfarfod blynyddol i’r cam nesaf, sef creu swyddog etholedig, cyflogedig a llawn amser dros y Gymraeg, fyddai hefyd yn llywydd ar yr undeb newydd yma. Ym mis Rhagfyr, fe gadarnhaodd bwrdd ymddiriedolwyr undeb myfyrwyr y brifysgol y byddai’r swydd yn ei lle erbyn gwanwyn 2020. Ond, yn anffodus, ar drothwy eu cyfarfod blynyddol eleni, mae hi wedi dod i’r amlwg fod yna dro pedol ynglŷn â chreu'r swydd hon, y swydd gyflogedig ar gyfer y myfyrwyr Cymraeg. Mae yna swydd debyg, fel y gwyddoch chi, ym Mangor, Aberystwyth ac Abertawe. Ac mae bwrdd yr undeb yn peryglu creu gelyniaeth tuag at y Gymraeg drwy fynnu bod yn rhaid dileu darpariaeth i grwpiau eraill er mwyn sicrhau darpariaeth briodol i’r Gymraeg. Fedrwch chi, Gweinidog, gadarnhau eich bod chi'n ymwybodol o’r sefyllfa yma a'ch bod chi'n rhannu fy mhryder i ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf? Ac, os felly, fedrwch chi ymrwymo i ohebu ar frys efo awdurdodau’r coleg a'r undeb cyn eu cyfarfod blynyddol, sy'n digwydd nos yfory?