Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:45, 20 Tachwedd 2019

Dwi yn meddwl bod yr Urdd yn fudiad sydd wedi gwneud gwaith arbennig dros y blynyddoedd yn rhyngwladol, yn arbennig y neges heddwch yna. Dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gwneud mwy o hynny. Mae'r ffaith bod yr Urdd wedi bod yn ddiweddar i Alabama i ddweud y neges a rhoi'r neges ynglŷn â sut roedd Cymru wedi sefyll gyda'r bobl yna yn ystod y problemau yna o ran sut roedd pobl yn delio â materion oedd yn mynd ymlaen yn y 1960au a'r 1970au yn yr ardal yna. Wrth gwrs, rŷn ni'n cael trafodaethau gyda'r Urdd ynglŷn â sut rŷn ni'n gallu eu helpu nhw yn y dyfodol i gryfhau eu neges ac i roi'r neges drosom ni. Dwi yn gwybod ei fod e'n rhan o'u strategaeth nhw i wneud lot mwy yn rhyngwladol, ac mae'n amlwg y dylem ni fod yn bartneriaid cryf gyda nhw. Mi wnawn ni edrych ar fanylion sut bydd hynny'n digwydd yn ariannol yn nes ymlaen.