Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Fe gyfeirioch chi at yr Urdd yn y fan yna. Mi fyddwch chi'n ymwybodol iawn o'r gwaith rhagorol mae'r Urdd yn ei wneud, a'r uchelgais sydd gan yr Urdd i ehangu ei waith yn rhyngwladol, a fyddai'n rhoi platfform i blant Blaenau Gwent a gweddill Cymru yn rhyngwladol, ac i rannu gwerthoedd Cymru rownd y byd, er enghraifft drwy y neges ewyllys da. Mi fûm i'n trafod rhai o'r syniadau yma efo cynrychiolwyr yr Urdd y bore yma. Ond a wnewch chi roi ystyriaeth i sut i gefnogi'r cynlluniau yma fel rhan o'ch strategaeth chi, yn cynnwys y posibilrwydd o roi cyllid yn benodol i weithio ar y strategaethau rhyngwladol yma o waith yr Urdd?