Niferoedd Twristiaid

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:50, 20 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, fel mae'n digwydd, mae'r ddau adroddiad perthnasol gennyf yma: yr un ar astudiaeth de-ddwyrain Cymru o dwnnel y Rhondda, ac wrth gwrs, yr un sy'n cyfeirio at yr astudiaeth gwmpasu ar gyfer y rhwydwaith beicio cenedlaethol gan ddefnyddio twneli rheilffordd. Byddai twnnel Aber-nant yn darparu cyswllt rhwng cymoedd Aberdâr a Merthyr Tudful; twnnel y Rhondda rhwng Cwm Afan a Chwm Rhondda; twnnel Pennar rhwng Pontllan-fraith a Threcelyn; ac mae posibiliadau gyda thwnnel Brynbuga, sef llwybr hen reilffordd a fyddai'n osgoi ffordd brysur.

Yr hyn rwyf wedi'i wneud yw gofyn i Sustrans arwain gwaith partneriaeth, a ariannwyd gennym yn rhannol, i archwilio'r potensial i ddod â thwneli allweddol yn ôl i ddefnydd. Rwy'n llawn cyffro ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghaerfaddon a'r cynllun dau dwnnel, sydd hefyd yn yr achos hwnnw'n cynnwys traphont ddŵr. Bydd yr astudiaeth yn adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn 2015 a’r gwaith y mae awdurdodau lleol wedi’i wneud ar y rhwydwaith teithio llesol. Bydd astudiaeth Sustrans yn gwahodd rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Cymdeithas Twnnel y Rhondda, i fod yn rhan o'r bartneriaeth i fwrw ymlaen â hyn.

Credaf y dylai agor twneli at ddefnydd cyhoeddus pellach, yn enwedig ar gyfer beicio, heicio, cerdded a gweithgareddau eraill—er nad i drafnidiaeth fodurol yn amlwg, ac nid er mwyn dod â threnau yn ôl, neu ddim eto, o leiaf—fod yn rhan o swyddogaeth yr adran dwristiaeth.