Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Weinidog, gan droi at yr awyr, gwyddom na fydd weiren wib yn cael ei gosod ar draws Bae Caerdydd, ond mae Zip World—gwn eich bod yn gwerthfawrogi eu gwasanaethau, maent yn gwneud cymaint yn eich rhan chi o Gymru—wedi edrych ar safle glofa'r Tŵr yn Hirwaun. Ceir safleoedd gwych eraill yn y Cymoedd uwch hefyd lle gellir gosod weiren wib. Oni fyddai’n wych pe gallem agor un a gwahodd brenin y weiren wib, Boris Johnson, i ddod i’w hagor? [Chwerthin.]