Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Diolch. Wel, rwyf wedi cyfarfod â threfnwyr Gemau'r Gymanwlad, a chredaf fod pawb yn dechrau teimlo cyffro erbyn hyn fod rhywbeth arwyddocaol iawn yn digwydd cyn bo hir. Yr hyn y buom yn ei drafod oedd i ba raddau y gallwn ni yng Nghymru fanteisio ar y cyfleoedd hynny. Un o'r pethau rydym yn eu trafod, er enghraifft, yw a allwn sicrhau bod rhai o'r timau sy'n dod i gystadlu yn cael eu lleoli yma yng Nghymru. Felly, mae honno'n drafodaeth lle rydym yn archwilio sut y gallwn ei symud yn ei blaen. Y peth arall i'w nodi yw bod yr Urdd bellach wedi eu partneru'n swyddogol fel y grŵp o Gymru a fydd yn sefyll gyda thîm Cymru—Mr Urdd fydd eu logo swyddogol, i hyrwyddo tîm Cymru. Felly, credaf fod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo eisoes, rwy'n falch o ddweud, mewn perthynas â Gemau'r Gymanwlad.