Niferoedd Twristiaid

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:53, 20 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Ni allaf ateb cwestiynau a fyddai’n fy arwain i gyfeirio at etholiad cyfredol San Steffan. Rwy'n teimlo'n arbennig o analluog i wneud hyn, wrth gwrs, gan mai un o arglwyddi'r deyrnas wyf fi ac ni chaf bleidleisio yn yr etholiad. Ond dylwn ddatgan buddiant personol hefyd, neu fuddiant cymdogaethol, er nad yw'n fuddiant ariannol, yn Zip World ac yn y buddsoddiadau a wnaed gan fy ffrind a fy nghymydog dros y bryn yn Nant-y-Rhiw yn nyffryn Conwy, Sean Taylor.

Yn wir, rwyf wedi clywed gan yr awdurdod lleol, Rhondda Cynon Taf, a chanddo ef, ei fod wedi ymweld â'r ardal a bod ganddo gryn ddiddordeb mewn buddsoddi mewn weiren wib yn y Cymoedd. Edrychaf ymlaen at weld y prosiect hwnnw'n cael ei gyflwyno. Ni chredaf y gallaf wneud sylwadau pellach ar ei rinweddau. Yn y gorffennol, nid yw wedi gofyn am arian gan fy adran ar gyfer ei fuddsoddiad, o leiaf nid ar raddfa fawr, ond ni allaf wneud sylwadau pellach ar hyn, oherwydd yn amlwg, mae materion cynllunio ynghlwm wrtho.

Ond mae cyflawniad Zip World yn y gogledd wedi trawsnewid yr economi ymwelwyr ac wedi pwysleisio pa mor ddeniadol yw Cymru a'i thirwedd. A gallaf ddweud fy mod wedi anfon fy nghyfarwyddwr cyffredinol yn yr adran dwristiaeth, y cyfryngau a chwaraeon i brofi'r weiren wib ar fy rhan, ac os caf ei enwi yn y Siambr hon, fe wnaeth Mr Jason Thomas hynny gydag urddas.