Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Mae cysylltu â phobl Cymru yn flaenoriaeth strategol i'r Comisiwn. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi cynnal gŵyl GWLAD ledled Cymru, y cynulliad dinasyddion cyntaf, rydym wedi cael sylw proffeil uchel yn y cyfryngau yn sgil gwaith pwysig ein pwyllgorau ni, a dadleuon yn y Cyfarfod Llawn yma, ac ymateb i ddigwyddiadau. Yn ddiweddar, gwnaethom benodi cyfarwyddwr cyfathrebu ac ymgysylltu newydd i adeiladu ar waith sydd eisoes ar y gweill i adolygu a gwella'r ffordd yr ydym yn cysylltu â phobl Cymru ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud ar eu cyfer.