Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Rydym bellach mewn cyfnod etholiad ac unwaith eto, mae'n amlwg ar garreg y drws fod pleidleiswyr yng Nghymru wedi drysu ynglŷn â'r hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn nad yw wedi'i ddatganoli. Mae hyn ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli. Beth sy'n mynd o'i le a beth y mae'r Comisiwn yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hyn?