4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 20 Tachwedd 2019.
1. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad ynghylch diogelwch tân mewn llety myfyrwyr yng Nghymru yn dilyn tân yr wythnos diwethaf ym Mhrifysgol Bolton? 365
Rydym yn parhau i weithio gyda phob perchennog ac asiant rheoli adeiladau preswyl uchel iawn, a'n partneriaid yn y gwasanaethau tân ac achub ac awdurdodau lleol, i sicrhau bod archwiliadau adeiladau angenrheidiol yn cael eu cynnal. Mae'r tân yn Bolton yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio ar y cyd a chynnal asesiadau risg cadarn o bob adeilad.
Weinidog, dywedwyd bod y tân wedi lledu'n gyflym i fyny'r paneli laminedig pwysedd uchel ar y tu allan i'r adeilad, ac rwy'n credu y byddai unrhyw un a welodd luniau wedi'u brawychu'n fawr iawn gan y ffordd y llyncodd y tân yr adeilad a pha mor gyflym y digwyddodd hynny. Rwy'n ddiolchgar i Brifysgol Caerdydd, gyda llaw, am anfon e-bost atom ar gyflwr eu hadeiladu ar ôl cael rhybudd ynglŷn â'r cwestiwn hwn. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu. Ond rwy'n poeni'n arbennig am fyfyrwyr sy'n byw mewn llety preifat i fyfyrwyr a adeiladwyd yn bwrpasol, darpariaeth sydd wedi ehangu'n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf. Yr wythnos diwethaf, sylwaf hefyd fod Undeb y Brigadau Tân wedi rhybuddio bod cladin laminedig pwysedd uchel yn cael ei ddefnyddio'n fwy eang na'r deunydd a ganfuwyd yn Nhŵr Grenfell. Hefyd, ym mis Gorffennaf, nododd y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol y dylid tynnu cladin laminedig pwysedd uchel oddi ar flociau risg uchel os yw wedi'i gyfuno â deunydd inswleiddio llosgadwy. Felly, tybed a ydym wedi mabwysiadu polisi tebyg yng Nghymru, ac os nad ydym, a yw'n fwriad gennych wneud hynny.
Rydym wedi ysgrifennu at yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Rwyf wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol, ac mae Kirsty Williams wedi ysgrifennu at bob sefydliad addysg uwch. Roeddwn yn falch o weld ymateb Caerdydd, ond rydym wedi gofyn i bob is-ganghellor ledled Cymru ddarparu gwybodaeth debyg i ni. Fe fyddwch yn falch o wybod ein bod wedi gwneud cryn dipyn o waith cyn tân Bolton, a buom mewn cysylltiad â phawb y llwyddasom i gysylltu â hwy. Ni allaf ddweud bod hynny'n golygu pawb yn bendant, oherwydd nid ydym o reidrwydd yn sicr ein bod wedi bod mewn cysylltiad â phawb. Ond rydym wedi ysgrifennu at bob asiant rheoli a pherchennog adeilad uchel iawn, lle mae'r manylion cyswllt gennym, i dynnu sylw at y canfyddiadau perthnasol o adroddiad ymchwil cam 1 Grenfell a gofyn iddynt sicrhau bod eu trigolion yn glir ynghylch yr hyn y dylent ei wneud pe bai tân yn digwydd.
Mae digwyddiadau anffodus y penwythnos diwethaf yn Bolton yn ein hatgoffa'n amserol o'r angen i sicrhau bod y lefelau uchaf o sylw'n cael eu rhoi i ddiogelwch tân mewn eiddo preswyl, yn enwedig mewn adeiladau uchel iawn gyda nifer o feddianwyr. Bydd David Melding yn gwybod bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo ynglŷn â beth yn union a ddigwyddodd yn y Cube, ond yr hyn sydd eisoes yn amlwg yw bod rheoli risg posibl yn ddeinamig yn allweddol i sicrhau diogelwch preswylwyr os oes tân yn digwydd. Er bod y tân hwnnw'n ddinistriol ac yn edrych—roedd y lluniau ohono'n cropian i fyny ochr allan yr adeilad yn ofnadwy, o ystyried yr hyn a wyddom bellach am Grenfell, ond mae'n dangos bod pobl wedi gallu gadael yr adeilad yn ddiogel. Nid yw'n diystyru'r golled ddinistriol o eiddo personol ac yn y blaen, ond bu modd iddynt adael yr adeilad, ac mae'n dangos bod y system bresennol, er ei bod yn ddiffygiol, yn gweithio.
Mynegodd Gwasanaeth Tân ac Achub Manceinion Fwyaf bryderon am yr adeilad wrth yr asiantau rheoli, a rhoddodd y rheini gamau priodol ar waith i adolygu eu strategaeth wacáu cyn gwneud gwaith unioni. Felly, mewn gwirionedd, fe wnaethant y peth iawn, ac yn ffodus, llwyddodd y preswylwyr i adael yr adeilad yn ddiogel iawn y noson honno, er nad yw hynny'n diystyru dinistr unrhyw dân, fel y dywedaf.
Ar noson y tân hwnnw, ymatebodd y gwasanaeth tân yn gyflym, gan ddiffodd y tân yn gyflym ac yn effeithlon, yn ogystal â chefnogi proses wacáu ddiogel a sydyn. Yn ffodus, fel y dywedais, er bod colli eiddo personol bob amser yn ddinistriol, prin iawn oedd yr anafiadau.
Yr hyn sy'n bwysig ei ddeall—rydym wedi ysgrifennu at bawb i ddweud hyn—yw fod angen cael systemau tân deinamig ar waith. Nid wyf yn arbenigwr personol ar hyn, wrth gwrs, felly mae ein penaethiaid diogelwch tân yn edrych ar hyn ac yn ysgrifennu ac yn sicrhau bod rheolwyr a pherchnogion adeiladau yn ddeinamig yn eu hymateb i ddiogelwch tân. Felly, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, lle mae adrannu wedi gweithio, y peth iawn i'w wneud o hyd yw aros, ond mae angen archwilio adeiladau yn rheolaidd iawn er mwyn gwneud yn siŵr mai dyna'r cyngor iawn o hyd, ac os nad dyna'r cyngor iawn, beth y dylid ei wneud os yw adrannu wedi methu neu'n cael ei ystyried yn annigonol mewn unrhyw ffordd.
Hoffwn ailadrodd y pwynt fod cyfyngu tân a'i ddiffodd yn y fflat lle mae'n digwydd yn fwy diogel na threfnu proses wacáu fawr, yn enwedig mewn adeiladau uchel iawn, lle gall y broses o ddiffodd tân fod yn arbennig o heriol, a lle gall niferoedd mawr o bobl sy'n gadael adeilad ar hyd grisiau sengl rwystro ymdrechion y diffoddwyr tân i ddod i fyny, yn ogystal â chreu peryglon eraill fel gwasgu a sathru. Ers tro byd, caiff yr holl flociau o fflatiau a adeiladir o'r newydd neu a addasir eu hadeiladu gyda mwy nag un allanfa, fel bod gennym lwybr i'r diffoddwyr tân i mewn i'r adeilad yn ogystal â llwybr i'r preswylwyr adael yr adeilad.
Ond mae 'arhoswch lle rydych chi' yn adlewyrchiad o wead cynhenid pob adeilad preswyl uchel iawn; nid yw'n bolisi gan y gwasanaethau tân ac achub, y Llywodraeth na neb arall. Mae wedi cadw preswylwyr fflatiau dirifedi yn ddiogel dros y blynyddoedd. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl hyd yn hyn o ymchwiliad Tŵr Grenfell a fyddai'n cyfiawnhau newid i'r ymagwedd gyffredinol honno heblaw dweud bod angen ymateb deinamig i hynny, ac os oes tystiolaeth bod adrannu adeilad yn beryglus, efallai y bydd angen i'r ymateb newid yn gyflym iawn o 'arhoswch lle rydych chi' i 'gadewch yr adeilad'.
Codwyd y mater hwn gyda mi, fel llefarydd addysg uwch dros Blaid Cymru, gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, sy'n poeni pa mor gyflym y mae rhai o'r fflatiau hyn yn cael eu hadeiladu, a'r ymchwydd sy'n digwydd yma yng Nghymru hefyd, a sut y mae hynny'n effeithio ar fyfyrwyr. Maent wedi dweud wrthyf fod myfyrwyr, weithiau, yn cael eu rhoi mewn fflatiau pan nad yw'r llety cyfan wedi'i orffen, ac felly nid yw prosesau diogelwch tân yn cael eu hesbonio'n briodol i'r myfyrwyr hynny pan fyddant yn symud i mewn am y tro cyntaf. Felly, hoffwn ddeall, os yw hynny'n digwydd, pa sgyrsiau rydych wedi'u cael gyda phrifysgolion, sy'n gyfrifol, yn y pen draw, am les y myfyrwyr hynny a allai fod yn symud i adeiladau sydd heb eu gorffen. Mae rhai o'r landlordiaid hyn yn barod iawn i gymryd arian gan fyfyrwyr ond yn amharod iawn i wneud unrhyw fath o newidiadau os oes cwynion, felly hoffwn gael sicrwydd, lle mae landlordiaid preifat yn gweithredu a lle ceir y math hwn o gladin, ynglŷn â beth yw natur y sgyrsiau gyda hwy, oherwydd fy nealltwriaeth i yw fod safonau ar gyfer llety myfyrwyr yn dal yn is na mathau eraill o lety, ac mae'n ymddangos yn hurt i mi y byddai myfyrwyr yn cael eu rhoi mewn llety mwy anniogel na'r boblogaeth yn gyffredinol. Felly, hoffwn gael mwy o eglurder ar hynny.
Hefyd, fe fyddwch chi a minnau'n gwybod o faterion lleol fod hyn wedi digwydd yn nes adref yn Abertawe, lle bu tân ym mloc llety Omnia yn natblygiad Oldway, felly hoffwn ddeall pa sgyrsiau a gafwyd ers hynny fel y gallwn ddysgu oddi wrtho, ac fel na fydd yn cael ei ailadrodd eto. Mae'n dod yn ôl at fater taliadau hefyd—rwy'n gwybod, roeddwn ar y pwyllgor yn flaenorol o dan gadeiryddiaeth John Griffiths—a'r ffaith bod rhai o'r bobl hyn sy'n byw yn y fflatiau preifat hyn yn cael eu gorfodi i dalu £39,000 mewn sawl achos i wneud eu fflatiau'n ddiogel, pan na allant fforddio gwneud hynny. Onid oes ffordd y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo perchnogion y fflatiau hynny, drwy fenthyciad neu grant gan y Llywodraeth, i'w helpu i allu fforddio'r addasiadau hyn i'w fflatiau fel nad ydynt yn cael eu gadael mewn dyled sylweddol oherwydd eu bod wedi gorfod ymdrin â phroblem lle nad oedd bai arnynt hwy?
I ymdrin â'r pwynt olaf hwnnw yn gyntaf, rwy'n awyddus iawn i ddod o hyd i fecanwaith nad yw'n cosbi'r bobl sy'n byw yn y fflatiau, lle mae'n amlwg mai bai'r cwmni adeiladu neu ryw achos amlwg arall ydyw. Bydd Bethan Sayed yn gwybod nad yw sefydlu hynny bob amser mor hawdd ag y mae'n ymddangos, ac mae gennym enghraifft yn Abertawe, y mae pob un ohonom o Abertawe yn ymwybodol ohoni, lle mae wedi bod yn hynod o anodd penderfynu pwy'n union sy'n gyfrifol am ba ran. Rydym yn gweithio'n galed iawn i sefydlu system sy'n caniatáu i ni wneud hynny, ond rwy'n gyndyn iawn o weld pobl yn gorfod talu am gamgymeriadau rhywun sydd wedi gwneud llawer iawn o arian o godi adeilad sy'n annigonol. Felly, rydym yn dal i geisio dod o hyd i ffordd o gael benthyciadau a grantiau i bobl mewn amgylchiadau lle nad ydym, i bob pwrpas, yn gwobrwyo ymddygiad gwael. Felly, rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ein sgwrs ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud yn union, oherwydd mae pobl eisiau bod yn ddiogel, ond ar y llaw arall, maent hefyd eisiau cael rhywfaint o ecwiti yn yr eiddo y maent wedi'i brynu, felly rwy'n ceisio cadw'r hawl honno. Rydym yn gweithio'n galed iawn i geisio dilyn y trywydd cymhleth o geisio cael hynny'n iawn.
Nid oes gennym set gyflawn o ddata am ffasâd allanol pob adeilad uchel iawn—sef adeiladau dros 18 metr yng Nghymru—ond gwyddom fod cladin laminedig pwysedd uchel ar o leiaf 10 adeilad uchel iawn. Fel y crybwyllodd David Melding, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu eu bod yn fflamadwy. Mewn gwirionedd, mae'n system gymhleth iawn, ac mae sut y gosodwyd y deunydd inswleiddio, a oes brics tân yno, beth yw adeiladwaith gweddill yr adeilad, yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran p'un a yw'n cael ei ystyried yn risg tân ai peidio. Felly, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i geisio gwella'r wybodaeth sydd gennym, ac rydym yn bwriadu deddfu ar gyfer hyn beth bynnag. Rydym eisoes wedi bod yn edrych ar hyn, fel y gwyddoch, drwy adolygiad o'n Bil a'n rheoliadau a nifer o bethau rydym yn edrych arnynt ar gyfer hwnnw.
Rydym wedi ysgrifennu at bob sefydliad addysg uwch yn gofyn iddynt roi gwybodaeth i ni ar gyfer eu holl fyfyrwyr, ac nid y rhai sydd mewn llety myfyrwyr a gyflenwir gan y sefydliad addysg uwch yn unig, ac rydym hefyd yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i gadw ein gwybodaeth yn gyfredol fel y gallwn ddeall yn union lle rydym arni gyda hynny. Rydym wedi bod yn gwneud hyn ers cryn amser, nid mewn ymateb i dân Bolton yn unig; rydym wedi ysgrifennu sawl gwaith at awdurdodau lleol ac ati i adolygu hyn yn barhaus. Unwaith eto, mae gennym enghraifft o ba mor bwysig yw sicrhau ein bod yn cael hyn yn iawn ar gyfer y dyfodol.
Hoffwn dalu teyrnged i'r gwasanaeth tân yn Bolton, a wnaeth y peth iawn ar y noson, yn amlwg, a rhoi'r trefniadau achub cywir ar waith—nid yn unig i ymladd tân, ond i gael y myfyrwyr allan o'r adeilad heb ddim ond mân anafiadau'n unig. Ond rydym yn cydymdeimlo â'r bobl sydd wedi colli eu holl eiddo personol ac sydd yn y sefyllfa honno.
Ond mae'n bwysig deall, ac rwy'n wirioneddol awyddus i bwysleisio hyn, y dylid darparu'r drefn ar gyfer gwacáu'r adeilad i denantiaid a pherchnogion pan fyddant yn mynd i adeilad uchel iawn gyda nifer o feddianwyr, ac rydym ar fin ysgrifennu at bawb, drwy Rhentu Doeth Cymru a'r holl gysylltiadau eraill sydd gennym, i sicrhau bod pobl yn adnewyddu hynny. Felly, os ydych wedi byw yn rhywle am bedair blynedd, mae'n bosibl iawn eich bod wedi anghofio'r wybodaeth a gawsoch, os cawsoch yr wybodaeth honno yn y lle cyntaf. Felly, rydym yn gofyn i bobl ei adnewyddu—adnewyddu'r wybodaeth. A Bethan, os oes gennych enghreifftiau o bobl yn cael eu symud i adeiladau nad ydynt wedi'u gorffen, lle nad ydynt yn cael yr wybodaeth gywir am ddiogelwch tân a gwacáu'r adeilad, os caf y manylion hynny gennych, gallaf ymchwilio i'r mater ymhellach.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.