Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Roedd gan hosbisau Cymru refeniw cyfunol o £36 miliwn yn 2018 a chafodd oddeutu £28 miliwn o'r arian hwn ei godi ganddynt eu hunain. Mae cyllid statudol wedi aros yn ei unfan ers blynyddoedd lawer. Mae hosbisau plant yn dweud wrthyf, er eu bod yn gweithredu ar sail 'prynu un, cael saith neu wyth am ddim', fod eu cyllid statudol wedi aros yn ei unfan ers 10 mlynedd.
Mae cyllid y Llywodraeth i hosbisau plant yng Nghymru, fel canran o'i gwariant elusennol, yn is nag yn Lloegr a'r Alban. Yng Nghymru, cafodd hosbisau plant 12 y cant o'u gwariant o gyllid y Llywodraeth y llynedd, o'i gymharu â 21 y cant yn Lloegr a 53 y cant yn yr Alban. Mae Llywodraeth y DU yn dyblu'r cyllid i hosbisau plant i £25 miliwn yn flynyddol erbyn 2023-24, ac mae Llywodraeth yr Alban yn darparu £30 miliwn dros bum mlynedd i gefnogi hosbisau plant yno. Mae hosbisau plant Cymru yn galw am weithredu ar yr argymhellion a wnaed gan adroddiad y grŵp trawsbleidiol ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru ariannu'r astudiaeth sy'n archwilio'r galw am ofal lliniarol i blant yng Nghymru ac i ba raddau y mae hynny'n cael ei gyflawni.
Dywed hosbisau oedolion wrthyf nad yw eu cyllid statudol wedi newid ers degawd a'i fod, felly, wedi bod yn gostwng mewn termau real bob blwyddyn. Mae cyllid y Llywodraeth i hosbisau oedolion, fel canran o wariant, yn is yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU. Yng Nghymru, cafodd hosbisau oedolion 28 y cant o gyllid y Llywodraeth, fel canran o'u gwariant yn 2017, o'i gymharu â 33 y cant yn Lloegr, 34 y cant yng Ngogledd Iwerddon, a 38 y cant yn yr Alban.
Nawr, er bod y rhan fwyaf o bobl yn dweud y byddai'n well ganddynt gael gofal yn eu preswylfa arferol—gartref neu yn eu cartref gofal—mae 55 y cant o farwolaethau yng Nghymru'n digwydd mewn ysbytai. Fodd bynnag, efallai y bydd llawer o'r rhain yn cael rhywfaint o gymorth gan hosbis. O ystyried y pwysau presennol yng Nghymru o ran nifer y gwelyau sydd ar gael mewn ysbytai, mae hosbisau'n darparu cyfle i ganiatáu i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt y tu allan i amgylchedd ysbyty ac yn unol â'u dewis personol. Gan hynny, dylai byrddau iechyd lleol ddatblygu perthynas waith agos gyda darparwyr hosbisau i ganiatáu i bobl gael pecyn gofal holistaidd, cynllunio gwasanaethau gyda'i gilydd a chomisiynu'n ddoethach er mwyn gwella bywydau a lleihau'r pwysau ar gyllidebau.
Dywedodd adroddiad y grŵp trawsbleidiol fod y rhai sydd â dementia, methiant y galon, a chyflyrau niwrolegol yn arbennig, yn wynebu amrywiaeth o rwystrau i ofal priodol a'u bod yn llai tebygol o gael eu hatgyfeirio na dioddefwyr canser, pan ddylai fod ganddynt hawl i gael gofal yn y cartref, mewn hosbisau a chartrefi gofal yn ogystal ag ysbytai. Dywedodd yr adroddiad fod pobl dros 85 oed sy'n byw mewn cartref gofal yn gallu ei chael hi'n anodd cael y cymorth cywir, rhywbeth y mae cyn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi tynnu sylw ato yn y gorffennol. Mae'r farn draddodiadol am hosbis fel uned i gleifion mewnol lle gallai rhywun fynd dros wythnosau olaf eu bywyd yn rhy gul pan fydd dros 80 y cant o wasanaethau hosbis yng Nghymru'n cael eu darparu yn y gymuned mewn gwirionedd, neu yng nghartrefi pobl.
Gwnaeth adroddiad y pwyllgor 11 o argymhellion ar gyfer gwella, gan gynnwys y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun gweithredu cadarn i fynd i'r afael â'r bylchau staffio mewn gofal lliniarol, gan flaenoriaethu nyrsys ardal a nyrsys pediatrig cymunedol. Mae angen i fyrddau iechyd sicrhau bod gwasanaeth cynhwysfawr y tu allan i oriau ar gael ledled Cymru gyfan. Dylai hosbisau a darparwyr gofal lliniarol addysgu cydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol am yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael—maent eisiau gwneud hynny. A dylai'r fformiwla ariannu fod yn seiliedig ar angen presennol y boblogaeth, a bydd gofyn egluro pa fesuriadau a ddefnyddir i bennu'r angen, gan nodi nad y bwrdd gofal diwedd oes sy'n meddu ar y dulliau bellach a bod y cyllid wedi'i ddatganoli'n llawn i fyrddau iechyd a bod yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes wedi dweud wrth y grŵp trawsbleidiol, er bod y bwrdd yn ymrwymedig iawn i ddod o hyd i ffyrdd o fesur canlyniadau, profiad, a'r gwahaniaethau a wnaed, ei fod yn dechrau poeni braidd fod pobl yn dweud ei bod yn anodd mesur canlyniadau pan nad oeddent yn ceisio gwneud hynny.
Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio'n gyflym, a rhagwelir y bydd nifer y bobl 65 a throsodd yn cynyddu 36.6 y cant rhwng 2016 a 2041. O'r 34,000 o bobl sy'n marw bob blwyddyn yng Nghymru, mae 75 y cant ohonynt angen rhyw ffurf ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes. Fel y dywedodd arweinydd hosbis wrthyf yr wythnos hon, 'Mae'r anghenion yn tyfu ac yn tyfu ond nid oes rhagor o arian yn dod i mewn, felly ar ba gam rydym yn dechrau lleihau'r ddarpariaeth?' Roedd yn pwysleisio mai annibyniaeth hosbisau yw eu cryfder a'r rheswm pam y mae eu cymunedau'n eu cefnogi, ond ychwanegodd fod byrddau iechyd yn cael enillion enfawr ac anghyfartal gan hosbisau ac felly nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn newid y mecanwaith ariannu. Mater i Lywodraeth Cymru gan hynny yw sicrhau bod hyn yn digwydd.
Mae cydweithio effeithiol rhwng y GIG a'r sector elusennol yn hanfodol os ydym am wella'n mynediad at ofal hosbis a gofal lliniarol i bawb ledled Cymru yn sylweddol—bûm yn dweud hyn yma ers 15 mlynedd—gyda byrddau iechyd yn gofyn i hosbisau sut y gallant eu helpu i gyflawni mwy. Gadewch i ni wrando, gadewch i ni sicrhau bod ein hosbisau yn cyflawni popeth a allant, gadewch inni wella bywydau a gadewch inni ddefnyddio cyllideb y GIG gryn dipyn yn fwy clyfar nag y gwnawn ar hyn o bryd.