Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Mae hosbisau'n gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau presennol y GIG mewn ardaloedd lleol, ac yn ychwanegu atynt. Y llynedd yng Nghymru, rhoddodd 16 hosbis elusennol ofal uniongyrchol i dros 11,000 o bobl a'u teuluoedd, gan gyrraedd miloedd yn fwy drwy ymgysylltiad cymunedol a datblygu; cyfrannwyd 290,000 o oriau gan wirfoddolwyr hosbisau; gwelwyd 2,150 o oedolion mewn hosbisau dydd a gofal i gleifion allanol; bu 22,500 o arosiadau dros nos mewn gofal i gleifion mewnol; gwnaeth 3,500 o bobl waith gwirfoddol ar ran eu hosbisau lleol; gwelwyd 8,600 o oedolion gan ofal cymunedol a hosbis yn y cartref; cafodd 800 o blant eu helpu'n uniongyrchol gan ofal hosbisau elusennol; cafwyd 57,700 o ymweliadau cartref gan ofal cymunedol a hosbis yn y cartref; a chafodd 2,300 o deuluoedd gymorth profedigaeth drwy hosbisau.
Fel y canfu adroddiad y grŵp trawsbleidiol, er gwaethaf rhywfaint o gynnydd o ran ehangu mynediad at ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru, mae anghenion sylweddol sydd heb eu diwallu ac anghenion na fodlonwyd yn barhaus. Darperir cyfran sylweddol o gymorth profedigaeth gan ein hosbisau elusennol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae teuluoedd y mae eu hanwyliaid yn marw mewn lleoliad acíwt ar ôl cael gofal dwys a chritigol yn aml yn colli'r cymorth profedigaeth sydd ei angen arnynt drwy ddiffyg cyfeirio neu argaeledd.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd, Marie Curie a'r bwrdd gofal diwedd oes i adolygu gwasanaethau profedigaeth. Mae Cruse Cymru yn gobeithio y bydd yr adroddiad terfynol yn cynnwys ymrwymiad cadarn a manwl i ddull comisiynu strategol ar gyfer gwasanaethau profedigaeth ledled Cymru. Wrth groesawu'r adolygiad, dywed Marie Curie wrthyf fod sicrhau cymorth digonol i deuluoedd sy'n dioddef profedigaeth yn rhan bwysig o'r broses o farw a'i bod yn flaenoriaeth i lawer yn y sector gofal diwedd oes.
Mae'r elusen 2 Wish Upon a Star hefyd yn croesawu'r adolygiad hwn ac yn pwysleisio'r gydberthynas rhwng y sefydliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd, sy'n cyfeirio neu'n atgyfeirio'n bennaf at sefydliadau, a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau profedigaeth ond yn derbyn fawr ddim cyllid, os o gwbl. Mae adroddiad y grŵp trawsbleidiol yn galw am wneud profedigaeth yn nodwedd allweddol o bob polisi perthnasol.
Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddodd y Gweinidog ei uchelgais y dylai Cymru ddod yn wlad dosturiol gyntaf—gwlad lle rydym yn sicrhau bod anghenion llesiant cymuned gyfan yn flaenoriaeth. Mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn cyflawni hyn. Mae Marie Curie yn nodi llawer o enghreifftiau o arferion gorau mewn dinasoedd, trefi a gwladwriaethau, gan ddefnyddio'r model cymunedau tosturiol i sicrhau profiad diwedd oes gwell, yn amrywio o Good Life, Good Death, Good Grief a phecyn cymorth Partneriaeth Gofal Lliniarol yr Alban, ac annog cymunedau lleol i greu rhwydweithiau cymorth, i brosiectau yn India ac Awstralia.
Mae hosbisau a'r sector gwirfoddol mewn sefyllfa dda i gynnull gwirfoddolwyr a chefnogi cymunedau i helpu i ffurfio cymunedau tosturiol, ac mae llawer ohonynt eisoes yn darparu rhaglenni sy'n canolbwyntio ar ehangu cyfranogiad ym maes gofal diwedd oes. Mae Marie Curie yn gweithredu cynllun cynorthwywyr, lle mae gwirfoddolwyr wedi'u hyfforddi'n arbennig yn helpu i ddarparu cefnogaeth reolaidd i'r rhai sy'n derbyn gofal lliniarol a'u teuluoedd. Sefydlodd Tŷ'r Eos yn Wrecsam grwpiau cymunedau tosturiol, ac er na allant reoli atebolrwydd yn nes i lawr y llinell, dywedant y gall hosbisau gyfrannu os bydd eu rôl yn canolbwyntio ar bobl ag anghenion gofal lliniarol, ac o'r herwydd gallai cymunedau tosturiol ddatblygu gyda hwy ar y sail hon. Er enghraifft, maent yn mynd â'u gwasanaethau dydd i'r Waun yn Sir Ddinbych a'r Wyddgrug yn Sir y Fflint.
Mae hosbisau hefyd yn darparu gwasanaethau ychwanegol at y rhai a ddarperir gan y GIG, megis cymorth i ofalwyr a therapïau cyflenwol. Fodd bynnag, er gwaethaf eu pwysigrwydd yn narpariaeth ehangach y gwasanaeth gofal, mae hosbisau'n wynebu nifer o heriau, sy'n effeithio ar eu gallu i ddarparu digon o wasanaethau cymorth. Maent yn dweud bod y rhain yn cynnwys diffyg cyllid statudol gan Lywodraeth Cymru, sy'n arwain at bwysau ariannol sy'n cyfyngu ar allu hosbisau i ddarparu gwasanaethau; fformiwla ariannu sydd wedi dyddio ac sy'n arwain at loteri cod post ar gyfer gwasanaethau; ac angen heb ei ddiwallu a achosir gan ddiffyg staff gofal lliniarol arbenigol.