Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 20 Tachwedd 2019.
I lawer o bobl, mae 'hosbis' yn air brawychus am ei fod yn gysylltiedig â diwedd oes, ond mae hosbisau'n ffordd i bobl flaenoriaethu dymuniadau'r claf a'r teulu. Maent yn cynnig gofal a chymorth arbenigol sy'n gweithio i sicrhau rhwyddineb a chysur a chynnal ansawdd bywyd y claf. Yr allwedd i roi cysur yn y dyddiau olaf yw cynllun cynhwysfawr sy'n cynnwys tîm o weithwyr proffesiynol meddygol a gofal iechyd sy'n mynd i'r afael â phob agwedd ar salwch claf, er mwyn rheoli a lleihau poen ac anghysur. Mae gofal hosbis yn lleddfu pryder teuluoedd, yn darparu gwasanaeth cwnsela ac yn rhoi cyfle i gleifion farw gydag urddas a pharch. Mae tua 23,000 o bobl yng Nghymru yn cael gofal lliniarol, ac ar unrhyw un adeg mae'n cynnwys 1,000 o blant.
Fodd bynnag, er gwaethaf pwysigrwydd darparu'r gwasanaeth gofal hanfodol hwn, mae hosbisau ar hyn o bryd yn wynebu nifer o heriau sy'n effeithio ar eu gallu i ddarparu digon o gymorth. Canfu ymchwiliad diweddar a gynhaliwyd gan y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol fod yr hosbisau'n dioddef oherwydd diffyg cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd lleol. Mae prinder staff gofal lliniarol arbenigol a nyrsys cymunedol wedi achosi oedi cyn i unigolion gael gofal, gan waethygu angen heb ei ddiwallu a chreu bylchau o fewn y gwasanaethau.
Mae hosbisau'n darparu amrywiaeth o wasanaethau i gleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, ond ni ystyrir bod pob un o'r gwasanaethau hyn yn ddarpariaeth graidd gan y GIG. Nid yw'r cyfraniad statudol at ariannu hosbisau elusennol yn cyfrannu at yr ystod lawn o ofal a ddarperir gan hosbisau na'u rheolaeth a'u gorbenion. O ganlyniad, mae hosbisau'n aml yn dibynnu ar roddion elusennol i ddarparu gwasanaethau. Yn 2018, codwyd dros £28 miliwn gan hosbisau yng Nghymru. Mae ffigurau gan Hospice UK yn dangos mai Cymru sydd â'r lefel isaf o gyllid gan y Llywodraeth i hosbisau oedolion yn y Deyrnas Unedig. Mae hosbisau oedolion yng Nghymru'n cael tua 28 y cant o'u cyllid gan y Llywodraeth, o'i gymharu â 33 y cant yn Lloegr, 34 y cant yng Ngogledd Iwerddon, a 35 y cant yn yr Alban.
Mae darparu gwasanaethau gofal lliniarol hefyd yn amrywio'n sylweddol ledled Cymru, gan arwain at loteri cod post ar gyfer gwasanaethau fel y crybwyllwyd yn gynharach. Nododd astudiaeth Llywodraeth Cymru ei hun y dylai'r rhai sy'n cael gwasanaethau lliniarol allu cael gofal o safon uchel lle bynnag y maent yn byw. Canfu'r grŵp trawsbleidiol fod amrywiadau ac anghysonderau rhanbarthol yn bodoli y gellid mynd i'r afael â hwy ar lefel genedlaethol. Mae dull ad hoc o ddatblygu gwasanaethau yn cyfrannu at anghysonderau yn y gwasanaethau a ddarperir. Mae anawsterau wrth gasglu a chydlynu data ar ddefnydd o ofal lliniarol yn golygu efallai na fydd darparwyr gwasanaethau yn gallu cynllunio'n ddigonol i ddiwallu galw ac anghenion mewn ardaloedd lleol.
I ychwanegu at y pwysau staffio, ac yn benodol, y prinder meddygon teulu, nyrsys ardal a nyrsys pediatrig cymunedol, sy'n cydlynu ac yn darparu gofal beunyddiol i bobl ag anghenion gofal lliniarol, nodwyd yn ddiweddar fod prinder meddygon ymgynghorol mewn gofal lliniarol wedi cyfyngu ar ddefnydd gwelyau mewn uned i gleifion mewnol a weithredir gan Ofal Hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd. Gostyngodd defnydd gwelyau o 74 y cant i 53 y cant yn 2018. Ddirprwy Lywydd, mae Cymru'n llusgo ar ôl gwledydd datblygedig eraill ar ddarparu cyllid teg a digonol i'n hosbisau. Rhaid inni gydnabod gwir werth y gwasanaethau y mae hosbisau'n eu darparu i'r bobl sydd angen gofal diwedd oes a'u teuluoedd.
Mae gennyf brofiad personol. Cafodd fy nhad-yng-nghyfraith ddiagnosis flwyddyn neu ddwy yn ôl, a 12 mis yn gynharach, dywedodd ei feddyg teulu wrthym efallai na fyddai'n byw am 12 mis arall. Mae hynny'n newyddion brawychus pan gaiff teuluoedd wybod am y mathau hyn o—boed yn ganser, yn glefyd niwronau motor, neu'n ddementia. Mae'r rhain yn ddigwyddiadau pan fydd y larymau'n dechrau canu, ac mae meddygon bron yn gwybod pa bryd fydd bywyd yn dod i ben. Dyna'r adeg pan fo'n rhaid i'n meddygon teulu roi cefnogaeth lawn i'r teulu er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr urddas a'r parch yn y teulu a'r gofal a'r awydd i ddiwedd eu hoes fod yn llawn heddwch, cytgord a chariad ynghanol aelodau'r teulu, yn hytrach na marw ar eu pen eu hunain yn rhywle. Diolch yn fawr iawn.