Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Rwyf wedi dysgu llawer am drenau ers cael fy ethol yn AC. Roeddwn i'n arfer gwneud yr hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei wneud—jest mynd ar drên. Byddai’n mynd â mi i ble y byddwn i eisiau mynd, ar amser fwy neu lai, gobeithio, a dyna ni a dweud y gwir. Ond rwyf wedi dysgu bod gwneud i hynny ddigwydd yn fater eithaf cymhleth.
Un o'r pethau a ddysgais yn gynnar fel aelod o'r Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf yw fod cael hyd i drên yn broblem ynddi'i hun. Mae'n anodd dod o hyd i drenau, yn aml iawn—problem sydd wedi bod yn arbennig o ddifrifol yng Nghymru, a llawer o hynny, unwaith eto, oherwydd manyleb drychinebus y fasnachfraint ddiwethaf. Mae 'rhaeadru' yn swnio bron yn rhamantus—y syniad o raeadru trenau o un defnyddiwr i'r llall. Mae'n golygu trosglwyddo'ch hen stoc i ddefnyddiwr arall, gan ei ailwampio rywfaint yn y broses efallai, a'i drosglwyddo o un i’r llall, ei drosglwyddo o un i’r llall—dylwn ddweud ei 'raeadru' o un i’r llall. Roedd Cymru, yn amlach na pheidio, ar waelod y rhaeadr, gyda threnau ail, trydydd, pedwerydd llaw, degawdau oed yn aml iawn.
Mae'n gyffrous fod yna raglen ar gyfer cyflenwi cerbydau newydd mewn blynyddoedd i ddod, er ei bod hi ymhell ar ei hôl hi wrth gwrs. Cafodd y cwmnïau cerbydau trên, gyda llaw, y ROSCOs, eu sefydlu gan y Torïaid i gymryd meddiant ar y cerbydau a oedd gynt yn eiddo cyhoeddus. Darganfuwyd y gallent wneud llawer mwy o arian, nid trwy adnewyddu cerbydau, ond trwy godi gormod am stoc a oedd yn heneiddio, stoc a raeadrir. Felly, rydym wedi dioddef canlyniadau gwaethaf hynny yma yng Nghymru.
Ond wrth i ni symud tuag at ddiwedd y flwyddyn hon, mae’n rhaid i’r hen stoc o drenau wedi’u rhaeadru sydd gennym yn awr, mae’n rhaid i lawer ohono fynd oherwydd problemau ynghylch cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM), yr angen am hygyrchedd ar bob un o'n trenau. Nawr, rydym yn gwybod bod hyn yn dod ers peth amser, ac rydym hefyd yn gwybod bod gennym broblem gyda chaffael cerbydau. Fel pwyllgor yn y Cynulliad diwethaf, fe wnaethom rybuddio Llywodraeth Cymru, 'Er bod blynyddoedd i fynd tan ddiwedd y fasnachfraint, rhaid i chi gynllunio ar gyfer cerbydau newydd i fynd â ni i mewn i'r fasnachfraint nesaf.' Nawr, gyda mater cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd yn arbennig, gwyddom bellach na weithredodd Llywodraeth Cymru yn ddigon cyflym i wneud cais am ryddhad i barhau i ddefnyddio trenau nad oeddent yn cydymffurfio ar ôl diwedd y flwyddyn hon, pan ddaeth yn amlwg na fyddai trenau newydd ar gael mewn pryd.
Mae yna ganlyniadau difrifol i beidio â chael y rhyddhad hwnnw. Byddai tynnu trenau Pacer nad ydynt yn cydymffurfio oddi ar y rheilffyrdd yn arwain at golli bron i hanner y cerbydau a ddefnyddir ar reilffyrdd y Cymoedd. Ceir sawl trên arall hefyd nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd a fyddai'n cael eu tynnu oddi ar y rheilffyrdd gyda'r trenau Pacer os nad yw'r rhyddhad angenrheidiol ar waith erbyn 1 Ionawr 2020, gan gynnwys—nid trenau'r Cymoedd yn unig—rhai trenau a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaeth Caergybi. Gellid diddymu gwasanaethau ar rannau eraill o'r rhwydwaith—er enghraifft, Abergwaun, Wrecsam, Caergybi—er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o gerbydau ar gael i'w defnyddio ar reilffyrdd y Cymoedd, y rheilffyrdd cymudo prysur iawn hynny.
Nawr, mewn sesiwn galw heibio yn y Cynulliad yn ddiweddar, dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddent yn defnyddio trên Pacer dau gerbyd ynghyd â thrên Sprinter sy'n cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd i sicrhau bod y trenau'n cydymffurfio, hyd yn oed os nad yw rhannau o'r trên yn cydymffurfio, a chredaf fod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn dweud hynny ar Twitter hefyd. Er hynny, mae'n ymddangos bod datganiad i'r wasg diweddar, a nodai y byddant yn defnyddio'r trenau Pacer yn bennaf fel setiau pedwar cerbyd ar reilffordd Rhymni, yn gwrth-ddweud yr wybodaeth sy'n dod o ffynonellau Trafnidiaeth Cymru eraill. Ond byddai data'r fflyd yn awgrymu nad oes digon o setiau sy'n cydymffurfio, nid oes digon o drenau Sprinter, i alluogi’r cynllun hwnnw hyd yn oed, a byddai'n rhaid i Trafnidiaeth Cymru redeg rhai trenau fel trenau Pacer yn unig.
Nawr, nid Cymru'n unig sydd wedi methu cael trenau newydd mewn pryd. Roedd Northern Rail hefyd mewn sefyllfa debyg, ond cawsant y rhyddhad, a'n pryder yma yw fod Llywodraeth Cymru, er iddi gael rhybudd flynyddoedd yn ôl, fel y dywed ein cynnig, am yr angen i gynllunio ar gyfer newid cerbydau, i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn y cyd-destun hwnnw lle gwyddom ei bod yn anodd dod o hyd i gerbydau, ond lle ceir problemau caffael difrifol. Ni weithredodd Llywodraeth Cymru nes ei bod yn rhy hwyr, ac nid wyf eto wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru heblaw eu bod mewn trafodaethau ar hyn o bryd gyda’r Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth y DU, a bod y trafodaethau hyn yn parhau.