Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch o gael y cyfle i gyflwyno'r cynnig yma heddiw, sy'n ymwneud yn uniongyrchol â bywydau pob dydd miloedd ar filoedd o bobl. Mae sut dŷn ni'n teithio ar gyfer gwaith neu hamdden yn cael effaith go iawn ar ein safon byw ni. Mae o'n cael effaith ar ein cyfleon economaidd ni fel unigolion, ac fel cymunedau. Mae safon ac argaeledd a'n dewisiadau ni o ran trafnidiaeth yn gallu dylanwadu ar ein hiechyd ni hefyd, ac, wrth gwrs, mae'n effeithio ar yr amgylchedd. Dyna pam, yng nghyd-destun rheilffyrdd—dyna pam roedd cyfnod y fasnachfraint reilffordd ddiwethaf yn un mor, mor boenus i ni yma yng Nghymru. Roeddwn i'n teimlo dros y rhai oedd yn gweithio i Arriva yn aml iawn, achos mi oedd methiannau hysbys iawn y fasnachfraint honno'n seiliedig, i raddau helaeth, ar y ffordd gwbl ddi-hid y cafodd hi ei chreu gan Lywodraeth Prydain nôl ym mlynyddoedd cyntaf, neu flynyddoedd cynnar, datganoli.
Dyna pam dwi wedi bod yn barod iawn i roi cefnogaeth ofalus i'r model newydd sydd gennym ni erbyn hyn, yn rhoi mwy o atebolrwydd, yn caniatáu symud i gyfnod o dwf o ran rheilffyrdd yng Nghymru, ac yn caniatáu i ni allu bod yn fwy uchelgeisiol drwy fodel Trafnidiaeth Cymru. Efallai oherwydd y gobaith yna mae pobl wedi bod mor siomedig i weld rhai o'r problemau ofnadwy, y problemau dwys, sydd wedi bod yn gysgod dros fisoedd cyntaf rheilffordd Trafnidiaeth Cymru. Pan ydym ni'n gweld trenau'n cael eu canslo, trenau'n orlawn, delivery o drenau newydd yn cael ei ohirio dro ar ôl tro, dyna'r union beth oedd angen peidio â'i weld wrth i Lywodraeth Cymru drio adennill hyder pobl Cymru yn ei gwasanaethau trenau.
Un o'r problemau hynny, rŵan, ydy dyfodol y Pacers, sydd yn drenau sy'n cael eu defnyddio gan filoedd ar filoedd o bobl. Mae yna bryderon gwirioneddol bod arafwch gan y Llywodraeth i gynllunio ymlaen o ran rolling stock yn ein harwain ni, rŵan, i mewn i gyfnod gwirioneddol ansicr i deithwyr. A beth rydyn ni'n trio'i wneud drwy'r cynnig yma heddiw ydy chwilio am y sicrwydd yna nad ydyn ni wedi'i gael hyd yma, er codi'r mater ar sawl achlysur—fi ac Aelodau eraill ar y meinciau yma yn y Senedd hon.