Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 2 yn ffurfiol yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. A gaf fi longyfarch Plaid Cymru ar gynnig wedi'i saernïo’n dda a nodi ein cefnogaeth lawn heddiw? Nid oedd gwelliant y Llywodraeth heddiw wedi'i saernïo’n dda, gan ei fod yn methu cydnabod y cyfrifoldeb am ddarparu capasiti ar gyfer gwasanaethau Cymru a gwasanaethau Cymru’n unig o dan y fasnachfraint reilffyrdd a weithredwyd gan Trenau Arriva Cymru. Mater i Lywodraeth Cymru oedd hynny a dyna a fu ers 2006, a dyma sail fy ngwelliant heddiw yn enw Darren Millar a’r pwynt rwyf am siarad yn ei gylch yn fy nghyfraniad.
Mae gwelliant y Llywodraeth yn tynnu sylw at fuddsoddiad mewn cerbydau dros y 15 mlynedd nesaf. Mae croeso mawr i hynny, ond hoffwn ofyn beth ar y ddaear sydd wedi digwydd yn y 13 blynedd diwethaf, sef y pwynt sydd angen inni ei drafod heddiw. Dyma destun y ddadl heddiw. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwerthu myth. Myth yw dweud mai mater i Lywodraeth y DU yw’r cerbydau. Nid yw hynny'n wir. Mater i Lywodraeth Cymru ydynt ers y degawd diwethaf a mwy. Y gwir yw fod cyfrifoldebau wedi'u trosglwyddo o'r Adran Drafnidiaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru, fel yr oedd bryd hynny, mewn cytundebau cyd-bartïon a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2006. Felly mae cynnig Plaid Cymru yn hollol gywir yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi methu ysgwyddo cyfrifoldeb na chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r problemau capasiti ar wasanaethau rheilffyrdd Cymru'n unig nid yn unig ers 2013, fel mae'n digwydd, ond mor bell yn ôl â 2006.
Mae gwelliant y Llywodraeth hefyd yn mynnu y dylai Llywodraeth y DU weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig i ddatblygu model gwahanol ar gyfer y system gerbydau, ond rhaid cofio bod gan Lywodraeth Cymru ddisgresiwn llawn o dan y trefniadau datganoli ers cytuno’r cytundeb cyd-bartïon, a bod cyllid a briodolwyd i wasanaethau Cymru'n unig a gwasanaethau Cymru wedi ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru o dan gytundeb ar wahân ers Ebrill 2006, ac mae wedi bod yn rhan o'r grant bloc llinell sylfaen gan y Trysorlys er mis Ebrill 2008. Ond wrth gwrs, mae'r Llywodraeth yn gwybod hyn, oherwydd mae'r Llywodraeth yn ymwybodol o hyn ac fe ryddhaodd y Llywodraeth ei chyllid ei hun ar gyfer cerbydau ychwanegol yn ôl yn 2007.
Ac fel y soniodd Rhun, rhybuddiwyd Llywodraeth Cymru yn 2013 gan y Pwyllgor Menter a Busnes fod yn rhaid iddi fynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud â cherbydau ar frys, a methodd wrando ar y rhybuddion hynny. Rwy'n credu i'r Gweinidog fod yn aelod o'r pwyllgor hwnnw am gryn dipyn o amser. Nid wyf yn siŵr a oedd yn aelod pan wnaed yr argymhellion a wrthodwyd wedyn gan y Llywodraeth yn anffodus. Caiff geiriau eu taflu o gwmpas gan y Llywodraeth mewn perthynas â deiliad blaenorol y fasnachfraint am drosglwyddo trenau echrydus, ac awgrymiadau bod Trafnidiaeth Cymru wedi etifeddu cerbydau tebyg i Ford Escort 30 oed heb glytsh na breciau sy’n gweithio, a dywedwyd bod peth o'r offer a drosglwyddwyd wedi'i heintio â llygod mawr marw. Ond y gwir amdani yw mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol yn y pen draw am gyflwr trenau yng Nghymru a chynlluniau ar gyfer cerbydau trenau. Ni weithredodd Llywodraeth Cymru pan ddylent fod wedi gwneud yn ôl yn 2013, os nad yn gynt na hynny.
Mae'r gwasanaeth presennol hefyd, fel y nodwyd yn y cyfraniad agoriadol, yn dal i fod yn gwbl annerbyniol. Dros y misoedd diwethaf rydym yn parhau i weld trenau wedi'u canslo, trenau hwyr, prinder staff, problemau gyda’r signalau, problemau capasiti, diffyg gwybodaeth o ansawdd i deithwyr, a gorlenwi, ac mae hyn yn annerbyniol yn ôl safonau unrhyw un a go brin mai dyma’r trawsnewidiad uniongyrchol a addawyd gan y Llywodraeth.
Rwy’n credu bod cynnig Plaid Cymru heddiw wedi taro'r hoelen ar ei phen o ran y sefyllfa bresennol, ac yn siomedig, mae'r Llywodraeth wedi cynnig 'dileu popeth' fwy neu lai o'r cynnig a gyflwynwyd heddiw. Felly, edrychaf ymlaen at gyfraniadau pellach i'r ddadl hon y prynhawn yma, Lywydd.