8. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth Cerbydau

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:12, 20 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Mae rheilffyrdd y Cymoedd yn wynebu problemau difrifol bob dydd, fel y mae rheilffyrdd ledled de-ddwyrain Cymru. Rwy'n gwybod hyn o fy mhrofiad fy hun ac o'r cwynion rwy'n eu gweld gan etholwyr. Y bore yma, defnyddiwyd trên dau gerbyd yn ystod yr oriau brig rhwng Glynebwy a Chaerdydd, gyda phobl yn cwyno ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod wedi'u gwasgu i mewn fel sardîns ac yn teimlo'n anniogel. Roedd fy nhrên i mewn y bore yma o Abercynon yn orlawn cyn iddo gyrraedd ein gorsaf fel bod pobl yn sefyll yr holl ffordd i lawr. Nid oedd pobl yn gallu dod ar y trên a chyraeddasom Stryd y Frenhines bron i 15 munud yn hwyr. Mae'n rhywbeth sy'n digwydd ddydd ar ôl dydd, ac mae'n wir ar reilffyrdd Merthyr, Aberdâr a Rhymni. Bore ar ôl bore o fod yn hwyr, ddim ond i wynebu'r un problemau yn teithio adref ar ôl gwaith. Pan fyddwn yn cwyno, cawn wybod bod yr holl gerbydau sydd ar gael yn cael eu defnyddio. Mewn geiriau eraill, nid oes gan Trafnidiaeth Cymru ddigon o gerbydau ar gael i ddarparu lefel dderbyniol o wasanaeth ar ormod o ddiwrnodau.

Fel y dywedwyd, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno pedwar trên yr awr ar reilffordd Rhymni yn 2022. Wel, mae angen y trenau ychwanegol hyn yn awr, felly rwy'n arbennig o bryderus i glywed nad yw'r terfyn amser hwn wedi'i adlewyrchu yn adroddiad blynyddol Trafnidiaeth Cymru, sy'n dweud 2023 yn lle hynny. Ac maent wedi dweud wrthym eu bod yn edrych ar Ragfyr 2023, sy'n golygu na fydd teithwyr yn teimlo'r fantais am bron i bedair blynedd. Felly, buaswn yn gwerthfawrogi pe gallai'r Gweinidog gadarnhau pryd y mae'n disgwyl y bydd gennym bedwar trên yr awr ar reilffordd Rhymni. Mae'n werth tynnu sylw hefyd at y ffaith bod pedwar gwasanaeth yr awr yn arfer bod ar y rheilffordd hon heibio Bargoed pan drosglwyddwyd y gwasanaeth i Trafnidiaeth Cymru y llynedd. Felly, ar hyn o bryd mae'n edrych fel pe bai'n mynd i gymryd pum mlynedd i ddod â ni nôl i lle roeddem.

Rwyf hefyd yn bryderus am y lleihad arfaethedig yn y capasiti ar y trenau hyn pan ddaw trenau newydd yn lle'r trenau 769 yn 2023. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, rydym yn disgwyl lleihad yn y capasiti cyffredinol o 24 y cant yn ystod yr oriau brig, a gostyngiad o 35 y cant yn y capasiti eistedd rhwng Caerffili a Bargoed. Mae'r ffigurau hyn wedi'u cadarnhau gan Trafnidiaeth Cymru mewn cais rhyddid gwybodaeth. O ystyried bod y trenau'n orlawn yn awr, mae'n annirnadwy ein bod yn edrych ar leihau capasiti yn y dyfodol. Rwy'n disgwyl i'r Gweinidog roi sicrwydd y bydd yn edrych ar y mater hwn ac yn gweithredu i atal y gostyngiad hwn yn y capasiti rhag digwydd.  

Nawr, gan edrych ymhellach i'r dwyrain yn fy rhanbarth, mae teithwyr ar y rheilffyrdd yn wynebu eu problemau eu hunain oherwydd prinder trenau. Cafodd y gwaith o ddeuoli'r rheilffordd rhwng Glynebwy a Chaerdydd ei atal nes i Lywodraeth Cymru gyhoeddi astudiaeth ddichonoldeb newydd. Nawr, roedd hon i fod i gael ei chyhoeddi erbyn yr haf, ond nid wyf yn ymwybodol fod hynny wedi digwydd, felly buaswn yn ddiolchgar am y newyddion diweddaraf am y cynlluniau hyn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, oni wneir y gwaith hwn, ni fydd yn bosibl cynyddu nifer y trenau yr awr rhwng Casnewydd a Glynebwy o un i ddau, ac mae galw enfawr am weld hyn yn digwydd.  

Gan aros yn y rhan hon o fy rhanbarth, hoffwn ofyn hefyd beth sy'n digwydd gyda chynlluniau i ailagor gorsafoedd yng Nghrymlyn a Magwyr. Mae yna ymgyrchwyr ymroddedig yn fy rhanbarth sy'n frwd dros ailagor y gorsafoedd hyn, a buaswn yn croesawu cyfarfod gyda'r Gweinidog i drafod eu hachos. Mae cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol 2017 yn cyfeirio at ailagor gorsaf Crymlyn fel rhan o gam 3 y gwaith ar y metro, ond nid yw'r ymrwymiad hwn yn yr adroddiad cyfatebol ar gyfer 2018. Ac mewn perthynas â Magwyr, cyfeirir ato yn nogfen y metro, ond mae'n absennol o'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol ers 2015. Felly, buaswn yn croesawu rhywfaint o eglurder gan y Gweinidog am ei gynlluniau ar gyfer y gorsafoedd hyn.  

Yn olaf, rhywbeth y bydd pawb sy'n cymudo ar drenau'n anhapus yn ei gylch yw'r cynnydd yng nghost teithio ar drên ar yr un pryd yn union ag argyfwng hinsawdd pan ddylem fod yn ceisio cymell pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae pobl yn teimlo eu bod yn talu mwy am wasanaeth annigonol. Hoffwn holi a fydd y gostyngiad yn y pris a addawyd gan y Prif Weinidog ar 12 Tachwedd yn cael ei roi ar waith ym mis Ionawr, fel y dywedodd. Ar hyn o bryd, nid yw gwefan Trafnidiaeth Cymru yn dangos unrhyw ostyngiad o'r fath ym mhrisiau tocynnau ym mis Ionawr, felly buaswn yn ddiolchgar am rywfaint o eglurder ar y pwynt hwnnw.

Os yw'r Llywydd yn caniatáu, credaf fod yr amser yn caniatáu imi nodi un pwynt olaf yn gyflym. Mae'n rhaid i ddiogelwch teithwyr fod o'r pwys mwyaf. Rydym wedi clywed cyfeiriadau, ac rwy'n cytuno'n llwyr, at y staff arwrol sydd gennym yn Trafnidiaeth Cymru, ond roeddwn ar drên yn ddiweddar a stopiodd yn Nhrefforest oherwydd bod gan deithiwr gyllell a'i fod yn ymddwyn yn fygythiol. Gweithredodd y staff a'r heddlu yn gyflym ac yn effeithlon iawn yn yr achos hwnnw, ond mae'n dangos pa mor bwysig yw cael nifer ddigonol o archwilwyr tocynnau ar y trenau, yn enwedig yn hwyr y nos, pan fo pobl wedi bod yn yfed a lle ceir pryderon ynglŷn â diogelwch. Felly, buaswn yn croesawu unrhyw beth y gallai'r Gweinidog ei ddweud i dawelu ein meddyliau ar y pwynt hwnnw.