8. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth Cerbydau

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 5:43, 20 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ceisio bod yn adeiladol yn y ddadl hon a ffurfio dadl ynghylch pam ein bod yn mynd i weld trawsnewidiad. Ni ddefnyddiais y gair 'goraddo'. Yr hyn a ddywedais oedd bod y disgwyliadau cychwynnol ar gyfer y gwasanaeth yn uchel iawn, fel bod pobl yn disgwyl trawsnewidiad ar unwaith. Yn amlwg, nid dyna oedd y cynllun. Felly, ni chafwyd goraddewid, ond roedd disgwyliadau ar gyfer y gwasanaeth yn uwch na'r hyn a allai fod yn realistig, ac rwy'n credu mai dyna beth rydych chi'n chwarae arno'n wleidyddol heddiw.