Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Diolch am y cwestiwn. Mae gan fwy o bobl yng Nghymru fynediad at ddeintyddiaeth gwasanaeth iechyd Cymru nag erioed o’r blaen, ac mae mynediad yn achos plant wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed. Er hynny, mae’r ddarpariaeth mewn rhai rhannau o Gymru’n dal yn her. Mae diwygio’r contract, buddsoddi mewn addysg ddeintyddol a rhyddhau’r proffesiwn yn rhai o'r atebion sy’n cael eu rhoi ar waith.