Gwasanaethau Deintyddol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 26 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:03, 26 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ddeintyddiaeth yng Nghymru, fel Aelodau Cynulliad, rydym ni'n parhau i dderbyn cwynion gan aelodau'r cyhoedd ynglŷn â phrinder deintyddion GIG yn lleol. Nawr, yn hen ardal Abertawe Bro Morgannwg yr wyf i'n ei chynrychioli, dywedir wrthym mai dim ond naw o'r 65 o bractisau deintyddol sy'n derbyn cleifion GIG newydd sy'n oedolion. Mae deintyddiaeth GIG leol yn perthyn i'r gorffennol mewn llawer o'n cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru wedi siarad o'r blaen, fel yr ydych chi wedi ei wneud heddiw, am ei bwriad i roi sylw i recriwtio a chadw deintyddion, ac am ddiwygio contractau yn y tymor canolig, ond mae pobl eisiau gwybod pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd nawr yn eich trafodaethau gyda byrddau iechyd i geisio gwella capasiti deintyddol lleol y GIG yn y byrdymor, nawr?