Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Rwy'n falch iawn o allu codi i wneud cyfraniad byr iawn i'r ddadl hon. Mae Siân Gwenllian eisoes wedi cyflwyno achos dros ein gwelliannau, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am eu derbyn, er, fel Siân, hoffwn ychydig mwy o eglurder ynghylch beth yn union y mae hynny'n ei olygu o ran targedau rhifiadol.
Rwy'n gwybod mor angerddol yw'r Dirprwy Weinidog dros yr achos hwn. Mae gennym ni hanes, yn mynd yn ôl i'r adeg pan oedd y ddwy ohonom ni'n gweithio i Barnardo's, ac roeddwn yn arbennig o falch o'i gweld yn cael y cyfrifoldeb hwn. Rwy'n ategu'r sylwadau a wnaeth am David Melding a'i ymrwymiadau. Cyfeiriodd David, wrth gwrs, at ein dyddiau yn craffu ar ganlyniadau adroddiad Waterhouse. Rwy'n credu ei fod yn amser anodd iawn i bob un ohonom ni, yn clywed pethau nad oeddem ni eisiau eu clywed a gweithredu arnyn nhw. Mae'r adroddiad hwn, rwy'n credu, ac yr wyf yn falch iawn o'i groesawu, yn dangos pa mor bell yr ydym ni wedi dod, ond mae hefyd yn dangos pa mor bell y mae'n rhaid i ni fynd o hyd.
Hoffwn wneud tri sylw byr iawn, ac, yn gyntaf, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog sut y mae'n sicrhau bod yr holl waith yn y maes hwn yn seiliedig ar hawliau, drwy'r system gyfan, oherwydd weithiau gellir osgoi llawer o'r hyn sy'n mynd o'i le petaem yn deall fod hawliau gan y plant a'r bobl ifanc hyn. Mae gennym ni ddeddfwriaeth arloesol yn y maes yma, sef Mesur Hawliau Plant a Phobl ifanc (Cymru) 2011, er fy mod yn credu yr hoffai rhai ohonom ni ei weld yn cael ei ddiwygio a'i gryfhau. Hoffwn glywed gan y Gweinidog heddiw sut y mae'n sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â'r plant hyn yn deall beth mae'r dull hwnnw sy'n seiliedig ar hawliau yn ei olygu. O ran fy hun, mae gennyf waith achos a rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd sy'n awgrymu nad yw hynny'n wir bob amser efallai; mae rhai anawsterau o hyd, er enghraifft, gyda'r ffordd y mae swyddogion CAFCASS yn gweithio gyda phobl ifanc yn y sefyllfaoedd hyn. Felly, byddwn yn ddiolchgar am rywfaint o sicrwydd ar y mater hwnnw.
I ddychwelyd yn fyr at welliant 3 o'n heiddo, roeddwn yn falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud na fyddai unrhyw fesurau cosbi ar gyfer awdurdodau lleol nad ydynt yn bodloni'r targedau y cytunwyd arnyn nhw. Nawr, mae'r Dirprwy Weinidog yn gwybod y bûm i'n bryderus iawn ynghylch natur rhai o'r trafodaethau rhwng ei swyddogion a rhai awdurdodau lleol; efallai na fu cymaint o gydsyniad ynddynt ag yr oedd hi'n dymuno. Ond rwy'n falch iawn o glywed ganddi heddiw fod yr agenda, yn amlwg, wedi symud ymlaen, bod pethau'n llawer mwy cadarnhaol.
Ond rwy'n dal i bryderu, os ydych chi'n rhoi rhif ar unrhyw beth, ei fod yn hawdd ei gyflawni. Mae'n llawer haws cyflawni rhif nag ydyw i gyflawni mesuriad ansoddol. Hoffwn annog y Gweinidog heddiw i sicrhau na chaiff pwysau amhriodol ei roi ar awdurdodau lleol i gyrraedd y targed ac, yng nghyd-destun gwelliant 2 o'n heiddo, i sicrhau bod gennym yr ail-weithio hirdymor hwnnw ar adnoddau ar gyfer yr agenda ataliol y gwn ein bod i gyd yn ei chefnogi.
Yn olaf, roeddwn yn falch iawn o glywed gan David Melding am y cynnydd o ran yr agenda rhianta corfforaethol. Rwy'n cytuno ag ef, mae'n derm eithaf erchyll. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd grafu pen a gweld a allwn ni feddwl am rywbeth gwell. Ond rwy'n falch o glywed bod y gwaith yn mynd rhagddo, a gobeithiaf y gellir cyflymu hyn gyda'r bwriad o greu fframwaith deddfwriaethol cynhwysfawr, eang ei gwmpas sy'n mynd â rhianta corfforaethol y tu allan i awdurdodau lleol yn unig—neu beth bynnag y penderfynwn ei alw pan fyddwn yn meddwl am rywbeth gwell—ac yn rhoi grym deddfwriaethol go iawn iddo. Oherwydd er fy mod yn siŵr, yn y Siambr hon, bod consensws eang ynglŷn â phwysigrwydd y gwaith yr ydym yn ei wneud i gefnogi ein plant sy'n derbyn gofal, fel y dywed Siân, ein plant ni ydyn nhw hefyd—ein plant ni—nid yw hynny bob amser yn wir ym mhobman. Nid yw hyn bob amser yn cyrraedd brig agendâu pobl, ac, weithiau, bydd angen y fframwaith deddfwriaethol hwnnw arnom ni i sicrhau nad oes gwahaniaeth rhwng hawliau plentyn sy'n derbyn gofal mewn un rhan o Gymru a hawliau plentyn sy'n derbyn gofal mewn rhan arall.
Credaf y byddai'n deg dweud fod Cymru, yn yr 20 mlynedd diwethaf, wedi bod yn gyfrifol am waith arloesol yn ymwneud â hawliau plant sy'n derbyn gofal, ond, fel y dywedodd David a'r Dirprwy Weinidog, mae llawer i'w wneud o hyd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr o bob rhan o'r Siambr hon ac ar yn lleol i sicrhau bod yr agenda honno'n mynd rhagddi.