Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Mae'r ddwy adran yn cydweithredu mewn sawl ffordd, ac yn ddiweddar, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig gweinidogol ar y cyd i roi gwybod i'r Aelodau am ein bwriad i fwrw ymlaen ag adolygiad i nodi'r holl faterion sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr ôl-16. Bydd yr Aelodau'n cael diweddariadau pellach ar yr adolygiad hwn wrth iddo fynd rhagddo.