Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:40, 27 Tachwedd 2019

Diolch, Llywydd. Mi hoffwn i drafod eich datganiad ysgrifenedig diweddar sy'n cyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad i ddiwygio rheoliadau cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, sef y WESPS. Mae gweld symudiad pendant tuag at newid yn gadarnhaol iawn. Mae angen cynllunio bwriadus er mwyn datblygu addysg Gymraeg ar draws y wlad, ond mae yna lawer o ffordd i fynd.

Mae'r sefyllfa ddiweddar ym Mlaenau Gwent yn crisialu hyn i mi. Mae trigolion ardal Tredegar a Rhieni Dros Addysg Gymraeg wedi bod yn brwydro am flynyddoedd dros gael ail ysgol cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. O'r diwedd, cytunodd y cyngor i wneud hynny ar ôl i ymgyrchwyr gasglu'r data sy'n mesur y galw. Sefydlwyd nifer o gylchoedd meithrin er mwyn paratoi at hyn, ond yna, fis diwethaf, fe welwyd tro pedol gan y cyngor a phenderfynwyd peidio ag agor y cylchoedd meithrin yma, sydd yn gam gwag yn sicr. Sut fydd y dyraniad ariannol o fewn eich portffolio chi yn newid er mwyn galluogi'r newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen i wireddu amcanion y diwygiad i'r rheoliadau?