Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Mae ein polisi prydau ysgol am ddim yn targedu cymorth tuag at y plant mwyaf difreintiedig yn ein cymunedau. O ganlyniad i'n meini prawf cymhwysedd newydd, erbyn i gredyd cynhwysol gael ei gyflwyno'n llawn—os bydd hynny byth yn digwydd—rydym yn amcangyfrif y bydd mwy o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim nag o dan y system flaenorol.