1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2019.
2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am effeithiolrwydd y fenter prydau ysgol am ddim i ddisgyblion yng Nghymru? OAQ54750
Mae ein polisi prydau ysgol am ddim yn targedu cymorth tuag at y plant mwyaf difreintiedig yn ein cymunedau. O ganlyniad i'n meini prawf cymhwysedd newydd, erbyn i gredyd cynhwysol gael ei gyflwyno'n llawn—os bydd hynny byth yn digwydd—rydym yn amcangyfrif y bydd mwy o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim nag o dan y system flaenorol.
Diolch. Cynghrair o dros 30 o ysgolion, sefydliadau cymunedol a ffydd, a grwpiau ledled gogledd-ddwyrain Cymru yw TCC—sef Trefnu Cymunedol Cymru. Yr wythnos diwethaf, mynychais lansiad swyddogol eu hymgyrch dysgu nid llwgu Cymru gyfan yn Ysgol y Grango yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam. Canfu eu hymchwil nad yw llawer o'r disgyblion mwyaf agored i niwed yn cael digon i'w fwyta yn ystod y diwrnod ysgol, gyda disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gwario peth o'u harian ar gyfer prydau ysgol am ddim ar frecwast am na allent gael digon o fwyd gartref, ac o ganlyniad, nid oes digon o arian ar ôl ganddynt i gael y cinio cytbwys llawn y cynlluniwyd y dyraniad prydau ysgol am ddim i'w ddarparu. A gwneuthum addo yno y buaswn yn codi hyn gyda chi yma. Dywedodd 49 y cant o athrawon wrthynt fod yn rhaid iddynt ddarparu bwyd i'r disgyblion eu hunain weithiau, a dywedasant eu bod yn tynnu sylw at y mater nid fel rhan o ddiwylliant bwrw bai yn unrhyw le, ond am fod angen cymorth ar y plant hynny. Sut rydych yn ymateb, felly, i alwad yr ymgyrch dros gael cynnydd o 80c y dydd yn yr arian ar gyfer prydau ysgol am ddim fel y gellir talu am frecwast? Dywedasant fod ychydig dros 29,000 o ddisgyblion ysgol yn cael eu heffeithio, ac yn ôl y nifer sy’n manteisio arno ar hyn o bryd, byddai'n annhebygol o gostio £3 miliwn y flwyddyn, ac yn mynd i'r afael â galwad yr ymgyrch hon. Felly, sut rydych yn ymateb i'r alwad honno?
Wel, yn gyntaf, rwy'n ymateb i'r alwad drwy ddweud ei bod yn gwbl anhygoel, mewn cenedl fel hon, fod yn rhaid i ni gael ymgyrch dysgu nid llwgu. Mae darparu lwfans ar gyfer brecwast i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd yn un cam gweithredu rwy’n ei ystyried ar hyn o bryd. Efallai fod camau gweithredu eraill, ac atebion eraill, a allai fod yn fwy priodol i fynd i'r afael â'r broblem hon. Rwyf am sicrhau bod beth bynnag a wnawn yn briodol ac yn darparu ateb i'r materion y mae'r Aelod yn eu hamlinellu. A bellach, ar ôl cyflawni ei addewid i godi'r mater hwn gyda mi, efallai y gall Mark Isherwood godi'r mater gyda chyd-aelodau o’i blaid yn San Steffan.