Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Yn ddiweddar, cyfarfûm â chynrychiolydd o Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru. Fe wnaethant dynnu sylw at y ffaith bod y ddeddfwriaeth gyfredol yn diffinio undebau myfyrwyr ac yn amlinellu sut y dylent edrych, ond nid yw'n gosod dyletswydd ar ddarparwyr addysg ôl-16 i gael undeb mewn gwirionedd. Dywedant fod unrhyw ddiwygiad i'r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn darparu cyfle i gryfhau'r sylfaen gyfreithiol sy'n sail i undebau myfyrwyr. Pa gynlluniau sydd gennych, Weinidog, i osod dyletswydd ar bob darparwr addysg ôl-16 i gael undeb myfyrwyr sy'n wleidyddol annibynnol, yn strwythurol annibynnol ac wedi'i ariannu'n llawn?