Gofalwyr sydd yn Astudio mewn Addysg Uwch

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:59, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, pe bai'r Aelod yn gwrando ar fy ateb cychwynnol i'r Aelod, byddai wedi fy nghlywed yn dweud ein bod, y llynedd, wedi cyhoeddi £9.8 miliwn i gefnogi 3,400 o fyfyrwyr gyda grant cyfartalog o £2,800 i'r rheini sydd â dibynyddion, boed yn blant neu'n oedolion, i ganiatáu iddynt—[Torri ar draws.] Mae'n gyffredinol, i bawb. Ac fel y dywedais, roedd hwnnw'n £9.8 miliwn a ddefnyddiwyd gennym i gefnogi myfyrwyr y llynedd yn unig.