1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2019.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr sydd yn astudio mewn addysg uwch? OAQ54742
Yng Nghymru, rwyf wedi sicrhau bod y pecyn cymorth mwyaf hael ar gael i fyfyrwyr, sy'n cynnwys cymorth penodol i helpu myfyrwyr sydd â dibynyddion. Y llynedd, darparwyd £9.8 miliwn gennym fel grantiau ar gyfer dibynyddion myfyrwyr israddedig amser llawn i'w helpu i aros mewn addysg.
Diolch am yr ymateb yna. Mae yna waith rhagorol yn digwydd ym Mhrifysgol Bangor, fy mhrifysgol leol i, er mwyn sicrhau bod gofalwyr yn gallu dilyn cyrsiau prifysgol a'u bod nhw'n cael y gefnogaeth i wneud hynny. Mae'r rhestr o bethau sy'n cael eu gwneud yno yn cynnwys bwrsariaeth o £1,000; mae yna gwrs preswyl yn cael ei gynnal i ofalwyr rhwng 16 a 25 oed i roi blas ar fywyd prifysgol iddyn nhw ac i weld sut y byddan nhw'n gallu ymdopi â hynny; mae yna fand arddwrn yn cael ei gynnig iddyn nhw, sydd yn syniad da, er mwyn iddyn nhw beidio â gorfod egluro i wahanol aelodau staff pam eu bod nhw angen cymryd galwad ffôn neu orfod gadael yn gynnar ac yn y blaen.
Dwi'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr ddarparu adroddiad yn amlinellu beth allai prifysgolion ei wneud i ddenu gofalwyr. Dwi'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb mawr mewn dysgu o beth sydd wedi bod yn digwydd ym Mhrifysgol Bangor, ond a allaf ofyn i chi beth fydd yn digwydd o ganlyniad i'r adroddiad hwnnw? Oes yna fwriad i roi rhagor o gyllid, o bosibl, i gefnogi gweithgareddau fel y rheini sydd wedi bod yn digwydd ym Mangor—er enghraifft, i'w galluogi nhw i barhau â'u gwaith rŵan, ond hefyd i gydweithio'n agos efo ysgolion er mwyn dangos yn gliriach y llwybrau i addysg uwch i ofalwyr ifanc?
Wel, yn gyntaf oll, a gaf fi achub ar y cyfle hwn i longyfarch Bangor ar y gwaith a wnânt i ehangu mynediad a chyfranogiad ar gyfer y grŵp penodol hwn o fyfyrwyr? Roedd y bwrsari £1,000 yn ymyrraeth arloesol iawn ac yn ffordd wych o dynnu sylw at Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, sef y diwrnod y gwnaethant lansio hynny a'r rhaglenni eraill sydd ganddynt yn swyddogol.
A gaf fi ddweud nad yw Bangor ar eu pen eu hunain yn hyn o beth, o ran cydnabod yr anghenion ychwanegol sydd gan ofalwyr? Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig bwrsarïau gofalwyr gwerth £1,000 i fyfyrwyr amser llawn a £500 i fyfyrwyr rhan-amser; mae Prifysgol Caerdydd yn darparu bwrsari o £3,000 i ofalwyr dros gyfnod eu cwrs; ac mae Prifysgol Abertawe yn cynnig bwrsari gofalwyr o hyd at £500.
Felly, mae prifysgolion yn ymwybodol o'r heriau y mae'r grŵp penodol hwn o fyfyrwyr yn eu hwynebu. Ond credaf y gallwn wneud mwy, ac y dylem wneud mwy, i chwalu'r rhwystrau rhag dilyn addysg bellach neu uwch i'r rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu, a dyna pam y comisiynwyd y gwaith hwn fel y gall wneud mwy i'n llywio ni a'r sgyrsiau a gaf gyda'r cyngor cyllido a'n prifysgolion ynghylch beth arall y gallant ei wneud.
A gaf fi ddweud—? Amser cinio—nid wyf yn siŵr a fu modd i'r Aelod fynychu—o dan ofal Hefin David, bu Prifysgol Caerdydd yma yn tynnu sylw ac yn arddangos peth o'u gwaith ehangu mynediad a chyfranogiad, i geisio cefnogi ceiswyr lloches, plant â phrofiad o ofal ac unigolion â niwroamrywiaeth, sydd efallai wedi teimlo yn y gorffennol nad oedd y brifysgol ar eu cyfer hwy.
Mae llawer o arferion da ar waith, ond bydd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ac awgrymiadau inni ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud. Ond hoffwn longyfarch Bangor ar eu gwaith caled yn y maes hwn.
Hoffwn ategu'r diolch a roddwyd yma heddiw i ganmol Prifysgol Bangor am eu hymdrechion ardderchog i gefnogi myfyrwyr sy'n ofalwyr. Mae'n dangos beth y gellir ei wneud—mewn pedair blynedd, mae'r brifysgol, er enghraifft, wedi creu llyfryn i fyfyrwyr sy'n ofalwyr; fel y nodwyd, maent wedi cyflwyno strapen arddwrn goch i helpu darlithwyr i nodi gofalwyr; ac maent wedi dyfarnu bwrsarïau o £1,000 i ofalwyr. Yn yr un modd, fel y nododd y Gweinidog, mae Prifysgol De Cymru yn cynnig bwrsari gofalwyr gwerth £1,000, a Phrifysgol Abertawe yn cynnig bwrsari o hyd at £500. Mae'r rhain yn fentrau rhagorol ac maent yn darparu model cymorth mawr ei angen. Nawr, fel y Gweinidog yma yn Llywodraeth Cymru, a wnewch chi ystyried cyflwyno bwrsari ledled Cymru ar gyfer myfyrwyr sy'n ofalwyr?
Wel, pe bai'r Aelod yn gwrando ar fy ateb cychwynnol i'r Aelod, byddai wedi fy nghlywed yn dweud ein bod, y llynedd, wedi cyhoeddi £9.8 miliwn i gefnogi 3,400 o fyfyrwyr gyda grant cyfartalog o £2,800 i'r rheini sydd â dibynyddion, boed yn blant neu'n oedolion, i ganiatáu iddynt—[Torri ar draws.] Mae'n gyffredinol, i bawb. Ac fel y dywedais, roedd hwnnw'n £9.8 miliwn a ddefnyddiwyd gennym i gefnogi myfyrwyr y llynedd yn unig.