Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Wel, yn gyntaf, rwy'n ymateb i'r alwad drwy ddweud ei bod yn gwbl anhygoel, mewn cenedl fel hon, fod yn rhaid i ni gael ymgyrch dysgu nid llwgu. Mae darparu lwfans ar gyfer brecwast i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd yn un cam gweithredu rwy’n ei ystyried ar hyn o bryd. Efallai fod camau gweithredu eraill, ac atebion eraill, a allai fod yn fwy priodol i fynd i'r afael â'r broblem hon. Rwyf am sicrhau bod beth bynnag a wnawn yn briodol ac yn darparu ateb i'r materion y mae'r Aelod yn eu hamlinellu. A bellach, ar ôl cyflawni ei addewid i godi'r mater hwn gyda mi, efallai y gall Mark Isherwood godi'r mater gyda chyd-aelodau o’i blaid yn San Steffan.