Ieithoedd Tramor Modern

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:17, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Delyth. Ers 2015, rydym wedi buddsoddi dros £2.5 miliwn yn y rhaglen Dyfodol Byd-eang i sicrhau bod ein dysgwyr yn elwa o fanteision dysgu ieithoedd tramor modern. Mae hyn yn cynnwys ariannu partneriaid consortia i ddatblygu canolfannau rhagoriaeth gydag ysgolion a phrifysgolion a'r prosiect mentora myfyrwyr, sydd wedi'i anelu'n benodol at gynyddu'r nifer sy'n mynd ar drywydd cymwysterau iaith.