Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Nawr, rwyf eisoes wedi datblygu ein gweledigaeth ar gyfer bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yn erbyn cefndir o ragfynegiadau tueddiadau ar gyfer Cymru yn y dyfodol, sy'n rhagweld twf sylweddol yn nifer yr aelwydydd un person â cherbydau preifat sy'n parhau i fod yn brif ddull trafnidiaeth i'r rhai sy'n gallu ei fforddio. Ond ar yr un pryd, byddwn angen newid sylweddol, boed hynny drwy newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus neu i gerbydau trydan preifat os ydym am gyflawni ein cyfrifoldebau a'n hymrwymiadau i sicrhau cynaliadwyedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Felly, mae'n amlwg fod angen gweithredu er mwyn harneisio ansawdd unigryw bysiau a'u gallu i ymateb yn gyflym i newid gyda lefelau is o fuddsoddiad na mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig y lefelau is o fuddsoddiad sydd ei angen mewn seilwaith i gefnogi gwasanaethau bysiau. Maent hefyd yn cynnig cost fesul teithiwr sy'n gymharol isel ac ôl-troed carbon isel. Ond i gyflawni'r weledigaeth a amlinellais eisoes ac y cyfeiriodd Mark Reckless ati, rydym angen cymysgedd o ymyriadau sy'n seiliedig ar le, rwy'n credu, gan gynnwys, er enghraifft, gwell arosfannau bysiau, gwell gwybodaeth am siwrneiau teithwyr a'r canolfannau, y cyfnewidfeydd y soniais amdanynt, fel y gallwn gael system trafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig sy'n cynnig dibynadwyedd, cysur a phrydlondeb i deithwyr.
Mae mesurau blaenoriaethu bysiau yn hynod o bwysig ac mae Mark Reckless wedi nodi'r angen i wasanaethau bysiau weithredu mewn modd amserol a dibynadwy. Rydym wedi canfod fod y prif reswm sy'n penderfynu a yw rhywun yn dewis mynd ar fws neu yn eu car yn ymwneud â pha mor ddibynadwy a phrydlon yw bws, ac a yw'n cynnig y gallu i gyrraedd pen y daith mewn llai o amser na'u cerbyd modur preifat. Ac felly, i'r perwyl hwn, rydym yn buddsoddi'n drwm iawn mewn lonydd bysiau pwrpasol ac mewn coridorau bysiau ac rydym yn treialu cynlluniau trafnidiaeth seiliedig ar alw. Mae Mark Reckless wedi nodi'r cynllun a gyflwynir ym Mlaenau Gwent—cynllun peilot de-ddwyrain Cymru yw hwnnw. Gwn fod Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu â'r awdurdod lleol a gweithredwyr bysiau i benderfynu ar gwmpas terfynol y cynllun peilot, ond rhoddir ystyriaeth i ymestyn y rhaglen benodol hon i Dorfaen.
Gofynnodd Mark Reckless a fydd cynlluniau peilot o'r fath—cynlluniau peilot seiliedig ar alw—yn debygol o arwain at bobl sydd wedi dibynnu ar eu car yn y gorffennol yn gadael yr allweddi gartref a defnyddio'r gwasanaethau arloesol newydd hynny. Nawr, lle rydym wedi gweld cynlluniau tebyg yn gweithredu yn y DU, rydym wedi gallu nodi bod newid moddol sylweddol wedi digwydd. Mynychais Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ddiweddar a nodais un cynllun penodol yn ne Lerpwl a welodd fod tua 52 i 53 y cant o ddefnyddwyr y gwasanaeth bws seiliedig ar alw hwnnw yn bobl nad oeddent erioed wedi defnyddio'r gwasanaeth bysiau yn yr ardal honno o'r blaen mewn gwirionedd; maent yn gadael eu ceir gartref. Felly, mae'n cynnig potensial mawr i gynyddu nifer y cwsmeriaid yn sylweddol iawn ar draws y rhwydwaith bysiau.
Gofynnwyd cwestiwn ynglŷn â pham ein bod mewn cyfnod disymud o ran y nifer sy'n defnyddio bysiau, a'n dealltwriaeth ni yw fod nifer o ffactorau'n penderfynu a yw pobl yn dewis mynd ar y bws yn hytrach na gyrru, ac yn bennaf, mae'n ymwneud â dibynadwyedd. Wel, rydym wedi bod yn buddsoddi'n drwm iawn mewn coridorau bysiau mewn ardaloedd trefol allweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Hefyd, yn sgil methiant cwmni bysiau amlwg iawn yn ôl yn 2016, rydym wedi cyflwyno cynllun sefydlogi ar gyfer y diwydiant a datblygwyd nifer o gamau gweithredu. Ac felly, o ganlyniad i'r gwaith eithaf dwys a wnaed, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond gan awdurdodau lleol ar draws Cymru yn ogystal, rydym wedi gallu sefydlogi nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau bws ledled Cymru. Ond os ydym o ddifrif am roi hwb i aileni'r diwydiant bysiau ac i gynyddu'r nifer sy'n defnyddio bysiau yn ôl i lle'r arferai fod ac yn uwch na hynny hyd yn oed, i lefelau tebyg i'r rhai a geir mewn mannau eraill yn y DU, rhaid inni weithredu ar ffurf deddfwriaeth. A bwriadaf gyflwyno'r Bil bysiau i'r Cynulliad y flwyddyn nesaf, er mwyn mynd i'r afael yn uniongyrchol â dadreoleiddio gwasanaethau bysiau sydd wedi bod yn drychineb llwyr. Digwyddodd hynny yn 1986, ac nid wyf yn credu y byddai neb yn dadlau ei fod wedi bod yn fuddiol, yn ei grynswth, i deithwyr ar draws y wlad.
Bydd yn cynnig cyfres o ddulliau, a bydd yn galluogi awdurdodau lleol i ymyrryd, pe baent yn dewis gwneud hynny, yn y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau. Ac i ateb y cwestiwn ynglŷn â system fasnachfreinio, bydd y cyd-bwyllgorau corfforaethol yn cael eu cynllunio i sicrhau y gwneir y gwaith o gynllunio trafnidiaeth ar sail drawsffiniol ac ar sail ranbarthol, a bwriedir iddynt feithrin galluoedd a chynyddu capasiti ar draws awdurdodau lleol ym mhob un o'r rhanbarthau lle bydd y cyd-bwyllgorau corfforaethol yn gweithredu.
Credaf na ellir ystyried diwygio bysiau ar ei ben ei hun, a'r cam nesaf yw pwyso a mesur pa mor bell yr awn gyda'n hagenda i hwyluso newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus. A bydd angen cefnogaeth wleidyddol ac ariannol arnom ar draws y Llywodraeth a thu hwnt. Bydd angen y cyhoedd arnom; byddwn angen i weithredwyr Llywodraeth a gwleidyddion weithio gyda ni i wireddu ein gweledigaeth o rwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus modern, carbon isel, ac rwy'n falch ein bod wedi cael y cyfle hwn heddiw i ymdrin â mater sy'n hollbwysig i lawer iawn o bobl ar draws ein holl etholaethau. Mae'r Aelod, Mark Reckless, wedi codi nifer o faterion sylweddol yn y Siambr. Byddaf yn falch o roi'r wybodaeth diweddaraf iddo ar bob un o'r meysydd nad wyf yn gallu ymateb iddynt yn yr amser sydd gennyf. Ond unwaith eto, hoffwn ddiolch i Mark Reckless a'r Aelodau am ddangos diddordeb mor frwd yn y pwnc hwn.