– Senedd Cymru am 6:17 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael, a allant fynd yn gyflym, yn dawel, os gwelwch yn dda? Un funud, Mark. Iawn, os oes Aelodau'n gadael, ewch yn awr. Rwyf ar fin galw'r ddadl fer a galwaf ar Mark Reckless i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis—Mark.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu mai dyma fy ail araith yn ddilynol. Rwy'n siarad am wasanaethau bysiau yng Nghymru, a chyn inni ddatgan argyfwng newid hinsawdd, un rheswm polisi cyhoeddus allweddol dros gefnogi bysiau oedd lleihau tagfeydd. A deallais un agwedd allweddol ar hyn yn iawn am y tro cyntaf pan glywais gan Nigel Winters, a oedd, ar y pryd o leiaf—mae'n bosibl ei fod yn dal i fod—yn rheolwr gyfarwyddwr Stagecoach yng Nghymru.
Efallai mai e-bost lobïo a dderbyniais, nid wyf yn gwybod, ond roedd yn sicr yn ddefnyddiol iawn gan ei fod yn dweud bod cyflymder cyfartalog bysiau yng Nghymru wedi gostwng 7 y cant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf—ac roedd hyn yn gynnar y llynedd pan ysgrifennodd ataf. A nododd, am bob gostyngiad o 10 y cant yn y cyflymder gweithredu, fod hynny wedi arwain at gynnydd o 8 y cant mewn costau gweithredu ar gyfer bysiau, a bod cynnydd o 8 y cant yn y costau, yn ei dro, wedi arwain at ostyngiad o 5.6 y cant amcangyfrifedig yn nifer y cwsmeriaid. Dyfynnaf yr hyn y mae'n ei ddweud: bydd peidio â mynd i'r afael â thagfeydd traffig yn arwain at sefyllfa lle mae llai o bobl yn dueddol o fynd ar y bws gan gynyddu nifer y ceir ar y ffordd ymhellach ac arwain at dagfeydd traffig hyd yn oed yn waeth, sy'n cael effaith fwy niweidiol byth ar y amgylchedd a holl ddefnyddwyr y ffordd.
Felly, yn ogystal â chael bysiau rydym am i bobl eu defnyddio er mwyn lleihau tagfeydd, gall effaith y tagfeydd hynny, yn ei dro, leihau'r defnydd o fysiau, gan fod y bysiau hynny'n arafu, maent yn mynd yn ddrutach i'w gweithredu, ac os bydd prisiau'n codi—ac roedd y pris wedi codi 6 y cant ar gyfartaledd yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2018, ac rwy'n meddwl ei fod wedi codi 3.6 y cant yn y flwyddyn ddilynol—mae hynny, yn ei dro, yn lleihau'r defnydd o fysiau ymhellach. Mae'n gylch dieflig.
Dylwn ychwanegu ar y cam hwn, fodd bynnag, fod yna resymau cymdeithasol ac economaidd eraill, yn ogystal â thagfeydd, sydd lawn mor bwysig i ddefnyddwyr gwasanaethau bysiau. Mae llawer yn oedrannus neu â nam symudedd ac ofnaf y gallai diffyg gwasanaethau bysiau beri iddynt gael eu hynysu neu golli eu hannibyniaeth. Mae'r elusen Defnyddwyr Bysiau Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod teithio ar fysiau yn hanfodol bwysig i helpu pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth a'u lles.
Dywedodd un o fy etholwyr, Carol Gulliford o Dorfaen, wrth y South Wales Argus y byddai'n rhaid iddi ddibynnu ar bobl eraill os bydd gwasanaethau y mae'n eu defnyddio yn cael eu torri, a'i bod yn poeni na fydd yn gallu mynd allan i weld pobl a... mynd i'r siopau. Ni fyddaf yn gallu gwneud unrhyw beth drosof fy hun.
Tynnodd yr un ddynes sylw at sut y mae gwasanaethau'n effeithio ar eraill:
Mae llawer o bobl y ffordd hon yn eu defnyddio i fynd i'r siopau neu i fynd i'r gwaith.
Mae fy merch yn dibynnu ar y bws i fynd â'i phlant i'r ysgol yn y boreau a'u casglu ar ddiwedd y dydd.
Mae ganddi blentyn tair oed felly nid yw cerdded yn opsiwn mewn gwirionedd.
I lawer, mae bysiau hefyd yn hanfodol o safbwynt ariannol, gan fod dewisiadau eraill fel tacsis yn gostus. Mae Darren Shirley, o'r Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well yn tynnu sylw at faint o bobl eraill sy'n defnyddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd swyddi, addysg a hyfforddiant, a phryderon y gallai hyn gael ei lesteirio os na chefnogir gwasanaethau bysiau. Ni ellir tanbrisio cymaint y mae'r gwasanaethau hyn yn ei olygu i bobl yn eu bywydau bob dydd.
Cyflwynais ddeiseb yn ddiweddar gan gymuned fusnes Ebwy Fawr i'r Pwyllgor Deisebau, ac rwy'n ddiolchgar eu bod wedi'i derbyn. Fe'i casglwyd gan Richard Taylor, sydd, gyda llaw, yn ymgeisydd Plaid Brexit dros Dorfaen—dros Flaenau Gwent, maddeuwch imi—gweithiai gyda Stephen Roberts, sy'n cadeirio cymuned fusnes Ebwy Fawr, ac mae ganddynt broblem benodol: effaith gostyngiad mewn gwasanaethau bysiau ar y masnachwyr.
Rwy'n credu bod amlder y gwasanaeth bysiau i ganol tref Glynebwy wedi haneru ac rwyf wedi siarad ag etholwyr sy'n sôn am yr effaith a gafodd ar eu bywydau cymdeithasol, o ran eu gallu i fynd allan, ond mae wedi cael effaith sylweddol iawn hefyd ar y gymuned fusnes yng Nglynebwy. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â rhywfaint o'r hyn a ddywedodd eisoes mewn ymateb i fy nghyd-Aelod, David Rowlands, am yr hyn a oedd yn digwydd yng Nglynebwy a'r awydd i gynnal cynlluniau peilot yno o'r gwasanaeth bysiau seiliedig ar alw y siaradais amdano o'r blaen—gweithrediad hwnnw yng Nghasnewydd. Tybed a yw hwn yn wasanaeth a all ddenu defnyddwyr newydd i ddefnyddio bysiau a darparu gwasanaeth lle nad oedd un o'r blaen, neu a ydyw, yn llai cadarnhaol, yn rhywbeth sydd ond yn gosod plastr ar y briw mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau bysiau'n cael eu torri, boed hynny oherwydd pwysau ariannol neu broblemau tagfeydd, a'i fod yn ddewis amgen yn eu lle, yn hytrach nag ychwanegiad atynt?
Cyn imi fynd i'r afael â'r Papur Gwyn a deddfwriaeth bosibl, hoffwn gyferbynnu'r hyn a ysgrifennodd Nigel Winter ataf yn gynnar y llynedd gyda pheth o'r dystiolaeth a welais ers hynny ar wasanaethau bysiau a'u cyflwr, oherwydd, ar gyfer data 2017-18, ceir arwyddion o sefydlogi yn y defnydd o fysiau. Cafwyd 99.9 miliwn o deithiau gan deithwyr, a 99.1 miliwn o gilometrau cerbyd. Felly, mae hynny'n awgrymu bod hyd cyfartalog taith mewn cilomedrau tua'r un faint â'r nifer gyfartalog o bobl sydd ar y bws. O edrych ar y data, ers 2014-15, gwelwn nifer gyffredinol y teithwyr yng Nghymru yn sefydlogi, ac mae hynny'n cymharu â gostyngiad serth yn 2008-09, ond gostyngiad a barhaodd yn llai serth wedyn, ond a oedd yn dal i fod yn sylweddol, hyd at 2014-15. Roedd nifer y teithwyr bws bron yn 130 miliwn, ac ers 2014-15, maent wedi bod yn hofran rhwng 99 miliwn a 100 miliwn.
Felly, tybed a all y Gweinidog ganfod unrhyw reswm pam y mae'r gostyngiad hwnnw wedi gwastatáu yn 2014-15. Efallai y bydd yn pwysleisio pethau gwych y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu gwneud, yn enwedig gan ei bod yn gyfnod etholiad, ac nid wyf yn diystyru'r ffaith efallai fod rhai mentrau cadarnhaol wedi bod, ond tybed hefyd a allai roi ychydig mwy o ystyriaeth ddiduedd i hynny, oherwydd ni allwn wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer gwella'r defnydd o fysiau yn y dyfodol heb ddeall pam y mae'r defnydd o fysiau wedi lleihau a pham ein bod wedi cael cyfnod heb fawr o newid.
Hoffwn nodi hefyd fy mod wedi cael peth data pellach, hyd at ddiwedd 2018 y tro hwn. Ar gyfer pedwerydd chwarter y llynedd, gwelsom gynnydd o 2.8 y cant yn nifer y teithwyr bysiau yng Nghymru, a dyna'r trydydd chwarter yn olynol i ni weld cynnydd. Ac yn gyson â'r cyfnod heb fawr o newid ers 2014-15, dim ond gostyngiad o 0.3 y cant a welsom yng Nghymru dros gyfnod o bum mlynedd, ac mae hynny'n cymharu â gostyngiad o 11 y cant yn yr Alban, gostyngiad o 7.4 y cant yn Llundain, gostyngiad o 6.9 y cant mewn ardaloedd metropolitanaidd yn Lloegr, a 5.2 y cant yn siroedd Lloegr. Felly, o ran tueddiad, bu rhywfaint o welliant ers 2014-15.
Fodd bynnag, credaf mai'r hyn sydd angen inni ei gydnabod hefyd yw fod lefel gyffredinol y defnydd o fysiau yng Nghymru yn sylweddol is na'r hyn ydyw yn Lloegr a'r Alban. Mae nifer y teithiau y pen o'r boblogaeth yng Nghymru yn y 30au isel, o'i gymharu â rhwng 70 a 80 yn Lloegr a'r Alban. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog—. Cyfeiriodd mewn datganiad ar ddiwedd mis Medi eleni at y perifferoldeb cyffredinol—dyna air nad wyf wedi'i glywed yn cael ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwnnw o'r blaen—a gwasgariad poblogaethau yn rhanbarthau Cymru. Ai dyna'r rheswm y tu ôl iddo, neu a oes materion eraill hefyd, yn enwedig yn y rhan ddeheuol Cymru, yng Nghasnewydd hyd at Abertawe, Llanelli? Oni allem fod yn gwneud yn well o ran faint y mae pobl yn ei ddefnyddio ar fysiau, yn enwedig i gymudo i'r gwaith, ac a oes gwersi i'w dysgu o rannau eraill o'r DU i ni yn hynny?
Felly, mae gan y Gweinidog agenda ddeddfwriaethol sylweddol. Cyhoeddodd y Papur Gwyn ar 10 Rhagfyr y llynedd, ac mae'n braf gweld Russell George yn ei sedd o hyd, oherwydd fe wnaeth Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau—cyhoeddwyd ein hymateb i'r Papur Gwyn ym mis Mehefin 2019, rwy'n credu. Ers hynny, ar 11 Gorffennaf, rhoddodd y Gweinidog grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, ac ar 24 Gorffennaf rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am Fil trafnidiaeth gyhoeddus (Cymru) a diwygio'r gwasanaethau bysiau yn ehangach. Yn hwnnw, cyfeiriodd at y ffaith bod asesiad effaith rheoleiddiol drafft ar gyfer y Bil ar fin cael ei gyhoeddi. Gofynnais i fy ymchwilydd ddod o hyd i'r asesiad effaith rheoleiddiol drafft hwnnw, ac i weld a oedd wedi'i gyhoeddi'n fuan fel yr addawyd, ac fel y dywedais, cafwyd datganiad ar 24 Gorffennaf. Ac aeth i edrych ar yr holl bethau a gyhoeddwyd ers hynny i weld a oedd y ddogfen honno wedi ymddangos, ac ni allai ddod o hyd iddi. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a oedd y cyhoeddiad hwnnw heb ymddangos. Yna, aethom ati i edrych ymhellach a chanfod bod yr asesiad wedi'i gyhoeddi ar 18 Gorffennaf mewn gwirionedd. Felly, pan ddywedodd y Gweinidog wrthym fod yr asesiad ar fin cael ei gyhoeddi, roedd wedi ymddangos chwe diwrnod cyn hynny, sy'n gwrthdroi'r ffordd y mae'r pethau hyn fel arfer yn digwydd i Lywodraeth.
Ar 24 Medi, cawsom adroddiad gwahanol a oedd yn canolbwyntio ar reilffyrdd: 'Yr Egwyddorion ar gyfer Cysylltiadau Trafnidiaeth Gyhoeddus'. A synnais braidd mai rheilffyrdd oedd ffocws yr adroddiad hwnnw pan oedd yn ymwneud â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus. Does bosibl nad oes angen inni ddod â'r ddwy broses ar gyfer trenau a bysiau at ei gilydd, yn hytrach na'u gwahanu yn y ffordd yr ymdrinnir â hwy. Os gwnaiff y Gweinidog faddau imi am eiliad—. Felly, yn y ddogfen honno, Weinidog, roeddech yn dweud:
'Mae'r egwyddorion a nodir isod yn gysylltiedig â chysylltiadau coridor sefydlog, fel arfer drwy'r rheilffyrdd ond efallai yn y dyfodol gan gerbydau tebyg i fysiau sy'n gweithio ar seilwaith pwrpasol/ar wahân... [Amlinellais] ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol... ym mis Gorffennaf.'
A'r gwahanu hwnnw y buaswn yn ei gwestiynu. Yn nes ymlaen yn y ddogfen honno ym mis Medi rydych yn cyfeirio at bwysigrwydd cyfnewidfeydd rhanbarthol, ond ymddengys eu bod wedi'u diffinio'n bennaf yn nhermau rheilffyrdd, ac rydych yn cyfeirio yn ne-ddwyrain Cymru, fy rhan ranbarthol i—fe'i gwneir yn fwy eang yma—at Bontypridd, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Bae Caerdydd, Heol y Frenhines Caerdydd, Parcffordd Caerdydd, nad yw gyda ni eto, fel y cyfnewidfeydd rhanbarthol. Pam nad Casnewydd? Mae gennym gyfnewidfa reilffordd o fath sy'n dod yn bwysicach yng Nghasnewydd, a buaswn yn sicr yn gobeithio y bydd yn gyfnewidfa bwysig ar gyfer bysiau, a hyderaf y bydd ffocws go iawn ar yr integreiddio hwnnw sydd ei angen arnom i hybu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyffredinol.
Fe ddywedoch chi hefyd yn y ddogfen honno ym mis Medi:
'Nid addewidion yw'r rhain. Nid ymrwymiadau yw'r rhain. Nid oes unrhyw arian wedi'i neilltuo. Ond maent yn rhoi cyfeiriad i’n gwaith ac yn rhoi gwybod i eraill am ein huchelgeisiau. Ac yn bwysicaf oll, maent yn arwydd bod Cymru ar agor i ymwelwyr a busnesau.'
Byddai'n dda gennyf pe baech wedi gweithredu yn yr un modd gyda ffordd liniaru'r M4. Ond yn hytrach nag oedi gyda hynny, hoffwn nodi'n unig eich bod yn dweud wedyn mai cynllun 20 mlynedd yw hwn. Yn y gorffennol, rydych wedi'i ddisgrifio fel 'egwyddorion', ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn deall beth yw hyn. Wrth gwrs, ni allwch wneud addewidion pan nad yw'r cyllid gennych. Mae gennych Trafnidiaeth Cymru; rwy'n credu bod yna addewid posibl gyda'r dull rydych yn ei fabwysiadu. Rwy'n awyddus i fod mor gefnogol â phosibl, ond rwy'n credu bod gwir angen eglurder ynglŷn â beth sy'n amcan, beth sy'n gynllun, beth sy'n uchelgais a beth sy'n ddyhead. Ac yn amlwg, nid ydych eisiau addo pethau nad ydych yn eu cyflawni wedyn, ond yn yr un modd, rwy'n credu bod angen eglurder ynglŷn â beth sy'n ddogfen gynllunio a beth nad yw'n ddogfen o'r fath.
Rydych yn rhoi cryn bwyslais—. Yn y Papur Gwyn, rydych yn cyfeirio at ostyngiad cyffredinol yn nifer y teithwyr, sy'n gostwng yn raddol am flynyddoedd lawer ar y rhan fwyaf o lwybrau ac unwaith eto, hoffwn bwysleisio nad yw hynny wedi bod yn wir ers 2014-15, ac mae'n rhaid inni edrych ar beth sydd wedi achosi'r newid hwnnw a sut y gallwn adeiladu ar hynny. Rydych hefyd yn rhoi cryn bwyslais yn y Papur Gwyn ar Ddeddf Trafnidiaeth 1985 yn dadreoleiddio gwasanaethau bysiau lleol yn y DU y tu allan i Lundain. Wrth gwrs, roedd hwnnw'n ddigwyddiad pwysig, ond rydym wedi symud ymlaen 34 o flynyddoedd, a hoffwn rybuddio yn erbyn disgwyl i bopeth fod yn wahanol am fod gennym gymhwysedd datganoledig a'n bod yn mynd i ddeddfu mewn ffordd wahanol a rhoi opsiynau eraill i awdurdodau lleol a rywsut, fod hynny'n mynd i newid tirwedd y ddarpariaeth fysiau. Yn amlwg, roedd dadreoleiddio'n bwysig, ond ni fydd dileu'r gofyniad deddfwriaethol amdano'n mynd â ni'n ôl o reidrwydd i system wedi'i rheoleiddio neu system fasnachfreinio yn y ffordd a welsom o'r blaen. Mae Llundain hefyd yn wahanol iawn i weddill y DU, ac mae cymdeithas wedi newid yn sylweddol iawn dros y 34 mlynedd.
Rwy'n cefnogi'r hyn rydych yn ei wneud yn y Papur Gwyn a'r tri dewis sydd gennych. Rwy'n credu bod rhoi mwy o opsiynau i awdurdodau lleol yn syniad da a'u galluogi i ddatblygu'r opsiynau hynny a dangos arferion da, a gall eraill ddysgu oddi wrthynt. Er hynny, tybed faint o wahaniaeth a welwn gyda'r partneriaethau ansawdd estynedig hyn. Efallai y byddant yn symud y cydbwysedd rywfaint o'r cwmni bysiau i'r awdurdod lleol, ond a fydd hynny'n arwain at wella gwasanaethau? Cawn weld. Yn yr un modd gyda masnachfreinio bysiau, nid wyf yn glir a yw'r Gweinidog yn disgwyl i rai awdurdodau lleol fasnachfreinio dros yr ardal gyfan a chael masnachfraint i'r system i gymryd lle'r system bresennol, neu a yw'n fwy tebygol y bydd hyn yn digwydd mewn ardaloedd penodol lle byddai hynny o fudd penodol? Rwy'n gofyn hefyd, a oes gan awdurdodau lleol y gallu, y bobl, y systemau, ar gyfer cynnal cystadleuaeth fasnachfreinio mor fawr ac mor bwysig? Os symudwn i system fasnachfraint mewn awdurdod lleol llawn, oni fyddai perygl go iawn y bydd symud o un system i'r llall, yn creu problemau cychwynnol o leiaf i'r bobl a fyddai'n ymwneud â hi?
O ran eich trydydd opsiwn, sef gwasanaethau bysiau awdurdod lleol, nid oes gennyf broblem gydag ambell awdurdod lleol yn rhedeg ambell fws. A bu rhai cwynion am ardaloedd nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael ceisiadau da gan ddarparwyr preifat i redeg gwasanaethau, a gallai'r posibilrwydd y gallai'r awdurdod lleol ei wneud gynnig rhywfaint o gystadleuaeth na fyddai yno fel arall. Fodd bynnag, unwaith eto, rwy'n dweud hyn: a oes gan yr awdurdodau lleol y lefel honno o allu, a ydynt wedi eu sefydlu i wneud hynny, a pha mor eang y cred y Gweinidog y bydd hynny'n digwydd?
Yn olaf, mae'n cyfeirio at gydbwyllgorau statudol o'r Bil llywodraeth leol. A gaf fi ofyn ai dyna'r hyn a alwem yn gyd-awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol o'r blaen? Ac a oes gan y Gweinidog unrhyw syniadau pellach ynglŷn ag a oes angen y cyd-awdurdod trafnidiaeth cenedlaethol, gan fod rhywfaint o bryder mai corff a fyddai'n dyblygu fyddai hwnnw, un yn fwy nag y byddem ei angen? Edrychaf ymlaen at ei ymateb.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl? Ken.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Mark Reckless am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Mae'n fater hynod bwysig; mae gwasanaethau bysiau'n mynd â llawer iawn o fy amser fel Gweinidog trafnidiaeth, ac amser nifer fawr o Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr hon hefyd. Ac nid oes amheuaeth fod gwasanaethau bysiau'n ganolog i bopeth a wnawn o ran ceisio integreiddio a gwella trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn gwybod eu bod yn fath hanfodol o drafnidiaeth i nifer enfawr o bobl mewn llawer o gymunedau, ac mewn rhai cymunedau, dyna'r unig fath o drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael. A hyd yn oed yn ein cymdeithas sy'n dibynnu ar geir, nid yw bron chwarter y cartrefi yng Nghymru yn berchen ar gar, ac felly, maent yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, a gwasanaethau bysiau lleol yn bennaf.
Nawr, mae gwasanaethau bws dibynadwy, yn eu tro, yn hanfodol i gysylltu pobl â swyddi, i gysylltu pobl ag aelodau'r teulu, ac i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar nwyddau a gwasanaethau. Maent yn sbarduno twf economaidd—sy'n arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig. Rwy'n credu bod gan fysiau botensial i gyfrannu'n sylweddol iawn at gyflawni ein nodau llesiant ar gyfer Cymru. Ond nid oes amheuaeth fod gwella gwasanaethau bysiau a chynyddu'r nifer sy'n eu defnyddio ar draws y wlad yn galw am weithredu a chydweithredu ar draws Llywodraethau, gyda gweithredwyr yn ganolog i'r ystyriaethau hefyd.
Nawr, rwyf eisoes wedi datblygu ein gweledigaeth ar gyfer bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yn erbyn cefndir o ragfynegiadau tueddiadau ar gyfer Cymru yn y dyfodol, sy'n rhagweld twf sylweddol yn nifer yr aelwydydd un person â cherbydau preifat sy'n parhau i fod yn brif ddull trafnidiaeth i'r rhai sy'n gallu ei fforddio. Ond ar yr un pryd, byddwn angen newid sylweddol, boed hynny drwy newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus neu i gerbydau trydan preifat os ydym am gyflawni ein cyfrifoldebau a'n hymrwymiadau i sicrhau cynaliadwyedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Felly, mae'n amlwg fod angen gweithredu er mwyn harneisio ansawdd unigryw bysiau a'u gallu i ymateb yn gyflym i newid gyda lefelau is o fuddsoddiad na mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig y lefelau is o fuddsoddiad sydd ei angen mewn seilwaith i gefnogi gwasanaethau bysiau. Maent hefyd yn cynnig cost fesul teithiwr sy'n gymharol isel ac ôl-troed carbon isel. Ond i gyflawni'r weledigaeth a amlinellais eisoes ac y cyfeiriodd Mark Reckless ati, rydym angen cymysgedd o ymyriadau sy'n seiliedig ar le, rwy'n credu, gan gynnwys, er enghraifft, gwell arosfannau bysiau, gwell gwybodaeth am siwrneiau teithwyr a'r canolfannau, y cyfnewidfeydd y soniais amdanynt, fel y gallwn gael system trafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig sy'n cynnig dibynadwyedd, cysur a phrydlondeb i deithwyr.
Mae mesurau blaenoriaethu bysiau yn hynod o bwysig ac mae Mark Reckless wedi nodi'r angen i wasanaethau bysiau weithredu mewn modd amserol a dibynadwy. Rydym wedi canfod fod y prif reswm sy'n penderfynu a yw rhywun yn dewis mynd ar fws neu yn eu car yn ymwneud â pha mor ddibynadwy a phrydlon yw bws, ac a yw'n cynnig y gallu i gyrraedd pen y daith mewn llai o amser na'u cerbyd modur preifat. Ac felly, i'r perwyl hwn, rydym yn buddsoddi'n drwm iawn mewn lonydd bysiau pwrpasol ac mewn coridorau bysiau ac rydym yn treialu cynlluniau trafnidiaeth seiliedig ar alw. Mae Mark Reckless wedi nodi'r cynllun a gyflwynir ym Mlaenau Gwent—cynllun peilot de-ddwyrain Cymru yw hwnnw. Gwn fod Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu â'r awdurdod lleol a gweithredwyr bysiau i benderfynu ar gwmpas terfynol y cynllun peilot, ond rhoddir ystyriaeth i ymestyn y rhaglen benodol hon i Dorfaen.
Gofynnodd Mark Reckless a fydd cynlluniau peilot o'r fath—cynlluniau peilot seiliedig ar alw—yn debygol o arwain at bobl sydd wedi dibynnu ar eu car yn y gorffennol yn gadael yr allweddi gartref a defnyddio'r gwasanaethau arloesol newydd hynny. Nawr, lle rydym wedi gweld cynlluniau tebyg yn gweithredu yn y DU, rydym wedi gallu nodi bod newid moddol sylweddol wedi digwydd. Mynychais Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ddiweddar a nodais un cynllun penodol yn ne Lerpwl a welodd fod tua 52 i 53 y cant o ddefnyddwyr y gwasanaeth bws seiliedig ar alw hwnnw yn bobl nad oeddent erioed wedi defnyddio'r gwasanaeth bysiau yn yr ardal honno o'r blaen mewn gwirionedd; maent yn gadael eu ceir gartref. Felly, mae'n cynnig potensial mawr i gynyddu nifer y cwsmeriaid yn sylweddol iawn ar draws y rhwydwaith bysiau.
Gofynnwyd cwestiwn ynglŷn â pham ein bod mewn cyfnod disymud o ran y nifer sy'n defnyddio bysiau, a'n dealltwriaeth ni yw fod nifer o ffactorau'n penderfynu a yw pobl yn dewis mynd ar y bws yn hytrach na gyrru, ac yn bennaf, mae'n ymwneud â dibynadwyedd. Wel, rydym wedi bod yn buddsoddi'n drwm iawn mewn coridorau bysiau mewn ardaloedd trefol allweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Hefyd, yn sgil methiant cwmni bysiau amlwg iawn yn ôl yn 2016, rydym wedi cyflwyno cynllun sefydlogi ar gyfer y diwydiant a datblygwyd nifer o gamau gweithredu. Ac felly, o ganlyniad i'r gwaith eithaf dwys a wnaed, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond gan awdurdodau lleol ar draws Cymru yn ogystal, rydym wedi gallu sefydlogi nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau bws ledled Cymru. Ond os ydym o ddifrif am roi hwb i aileni'r diwydiant bysiau ac i gynyddu'r nifer sy'n defnyddio bysiau yn ôl i lle'r arferai fod ac yn uwch na hynny hyd yn oed, i lefelau tebyg i'r rhai a geir mewn mannau eraill yn y DU, rhaid inni weithredu ar ffurf deddfwriaeth. A bwriadaf gyflwyno'r Bil bysiau i'r Cynulliad y flwyddyn nesaf, er mwyn mynd i'r afael yn uniongyrchol â dadreoleiddio gwasanaethau bysiau sydd wedi bod yn drychineb llwyr. Digwyddodd hynny yn 1986, ac nid wyf yn credu y byddai neb yn dadlau ei fod wedi bod yn fuddiol, yn ei grynswth, i deithwyr ar draws y wlad.
Bydd yn cynnig cyfres o ddulliau, a bydd yn galluogi awdurdodau lleol i ymyrryd, pe baent yn dewis gwneud hynny, yn y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau. Ac i ateb y cwestiwn ynglŷn â system fasnachfreinio, bydd y cyd-bwyllgorau corfforaethol yn cael eu cynllunio i sicrhau y gwneir y gwaith o gynllunio trafnidiaeth ar sail drawsffiniol ac ar sail ranbarthol, a bwriedir iddynt feithrin galluoedd a chynyddu capasiti ar draws awdurdodau lleol ym mhob un o'r rhanbarthau lle bydd y cyd-bwyllgorau corfforaethol yn gweithredu.
Credaf na ellir ystyried diwygio bysiau ar ei ben ei hun, a'r cam nesaf yw pwyso a mesur pa mor bell yr awn gyda'n hagenda i hwyluso newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus. A bydd angen cefnogaeth wleidyddol ac ariannol arnom ar draws y Llywodraeth a thu hwnt. Bydd angen y cyhoedd arnom; byddwn angen i weithredwyr Llywodraeth a gwleidyddion weithio gyda ni i wireddu ein gweledigaeth o rwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus modern, carbon isel, ac rwy'n falch ein bod wedi cael y cyfle hwn heddiw i ymdrin â mater sy'n hollbwysig i lawer iawn o bobl ar draws ein holl etholaethau. Mae'r Aelod, Mark Reckless, wedi codi nifer o faterion sylweddol yn y Siambr. Byddaf yn falch o roi'r wybodaeth diweddaraf iddo ar bob un o'r meysydd nad wyf yn gallu ymateb iddynt yn yr amser sydd gennyf. Ond unwaith eto, hoffwn ddiolch i Mark Reckless a'r Aelodau am ddangos diddordeb mor frwd yn y pwnc hwn.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.