Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Rwy'n falch o gadarnhau, ar fater Pencoed, fy mod yn cofio nid yn unig y sgwrs gyda'r Aelod ond gyda chynghorwyr a thrigolion lleol am y bygythiad i gau canolfan Llanharan, ac rwy'n falch fod ganddi ddyfodol hirdymor. Ac wrth gwrs, wrth feddwl am y dyfodol, mae angen inni feddwl ynglŷn â ble mae'r angen a ble mae'r galw, yn ogystal â'r her ehangach a nodwyd yn y gynhadledd gofal sylfaenol yn ddiweddar ynglŷn â sut y mae clystyrau'n cydweithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd fel bod gennych fwy o bartneriaeth ym mhob rhan o'r tîm gofal sylfaenol. Ac rwy'n fwy na pharod i barhau i ymgysylltu a chymryd rhan yn hynny.
Ac mae'r un peth yn wir gyda'r gwasanaethau sydd i gael eu lleoli ar safle ysbyty dydd Maesteg yn y dyfodol, gan fod hyn yn ymwneud â ble a sut rydym yn darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Ac rwy'n siŵr, hyd yn oed pe na bawn am ymgysylltu a chymryd rhan ynddynt mwyach, y byddai'r Aelod etholaeth yn fy llusgo'n ôl i wneud fy swydd a gwneud yn union hynny.